Darparu arweiniad, adnoddau a chymorth i alluogi staff i leihau risg lledaenu haint
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu arweiniad a chymorth, gan gynnwys sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i bob aelod staff iechyd a gofal cymdeithasol, i'w galluogi i leihau risg caffael a lledaenu haint.
Mae'n berthnasol i'r rhai sy'n gweithio ym mhob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal cartref a chymunedol a lleoliadau gofal ambiwlans.
Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at bolisïau, canllawiau a gweithdrefnau gweithredu safonol ar atal a rheoli heintiau ar gyfer maes eich cyfrifoldeb, sy'n cyd-fynd â pholisïau/gweithdrefnau lleol a chenedlaethol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfleu'r polisïau a'r canllawiau yn glir, a sicrhau ei bod hi'n hawdd cael atynt
- trefnu hyfforddiant sefydlu a diweddariadau pellach i sicrhau bod gan staff y wybodaeth a'r sgiliau i gymhwyso polisïau/gweithdrefnau a chanllawiau atal a rheoli heintiau
- sicrhau bod atal a rheoli heintiau yn rhan annatod o holl amcanion personol staff ac y dangosir yn glir bod pawb yn gyfrifol amdanynt
- amddiffyn staff trwy sicrhau eu bod yn gallu cael at yr adnoddau i'w galluogi nhw i leihau risgiau haint wrth wneud eu swyddi
- rhoi cyfarwyddyd i staff ar weithdrefnau yn dilyn anaf gan offeryn miniog neu pan fydd hylifau'r corff yn sblasio
- monitro, archwilio a rhoi adborth ar arferion staff yn gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau
- monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau hynny ar yr amgylchedd sy'n effeithio ar arferion yn gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau
- monitro imiwneiddio galwedigaethol staff ac ansawdd y ddarpariaeth
- lle y gwelir neu y rhoddir gwybod am broblemau neu ddigwyddiadau andwyol, ymchwilio i'w hachosion a, lle y bo'n briodol, cychwyn camau adferol prydlon a chyfleu canfyddiadau i'r bobl briodol
- uwchgyfeirio pryderon yn unol â chanlyniadau ymchwiliad
- dadansoddi tueddiadau'r holl ddigwyddiadau andwyol y rhoddwyd gwybod amdanynt a phan fydd heintiau'n digwydd i nodi problemau mynych a chychwyn camau gweithredu i fynd i'r afael â nhw
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
- y gadwyn heintio
- hierarchaeth mesurau rheoli
- camau allweddol hylendid y dwylo
- sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
- egwyddorion ynysu a lleoli unigolion
- imiwneiddiadau sy'n gallu amddiffyn rhag heintiau y gellir eu hatal trwy frechlyn a dulliau o atgyfeirio staff i gael cyngor iechyd galwedigaethol
- cyfleusterau a phrosesau priodol ar gyfer hylendid y dwylo
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- cyfleusterau priodol ar gyfer darpariaeth cymorth cyntaf
- y cyfarpar diogelu personol y mae ar staff eu hangen
- sut i sicrhau bod risgiau haint yn cael eu hasesu'n arbenigol ym maes eich gweithgarwch
- dulliau trosglwyddo haint
- egwyddorion ymwrthedd gwrthficrobaidd
- dulliau gwella o ran atal a rheoli heintiau
- asesu risg yn gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau
- sut i uwchgyfeirio pryderon a sut/ble i gael cyngor awdurdodol
- sut i sicrhau hyfforddiant sefydlu a diweddariadau pellach i'ch staff
- pwysigrwydd bod digon o adnoddau ar gael i'r staff a sut i'w caffael er mwyn galluogi staff i gymhwyso'r polisïau/gweithdrefnau a'r canllawiau atal a rheoli heintiau cytunedig
- sut i fonitro arferion staff a sut i gymryd camau i gynnal y safonau gofynnol
- adrodd am ddamweiniau a digwyddiadau a'r mecanweithiau i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i wella safonau
- y prosesau i fonitro heintiau sy'n digwydd, sy'n berthnasol i rolau eich staff
- sut, pryd ac i bwy y dylid rhoi gwybod am broblemau sydd o fewn a'r tu hwnt i gwmpas eich ymarfer
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- egwyddorion monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau hynny ar yr amgylchedd sy'n effeithio ar arferion sy'n gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau, gan gynnwys imiwneiddio galwedigaethol staff ac ansawdd y ddarpariaeth
y camau i'w cymryd pan welir neu pan roddir gwybod am broblemau neu ddigwyddiadau andwyol, gan gynnwys:
- ymchwilio i'r achosion
- cychwyn camau adferol prydlon
- cyfleu canfyddiadau i bobl eraill berthnasol
sut a phryd i uwchgyfeirio pryderon yn unol â chanlyniadau ymchwiliad
- sut i ddadansoddi a deall tueddiadau'r holl ddigwyddiadau andwyol y rhoddwyd gwybod amdanynt a phan fydd heintiau'n digwydd i nodi problemau mynych a chychwyn camau gweithredu i fynd i'r afael â nhw
- sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel