Lleihau risg lledaenu haint wrth storio a defnyddio dillad gwely glân
URN: SFHIPC12
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â storio a defnyddio dillad gwely glân i leihau risg halogi a thraws-heintio. Mae'r safon yn berthnasol i bob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref a lleoliadau gofal ambiwlans.
Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn ac i ofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- sicrhau hylendid effeithiol y dwylo cyn trafod dillad gwely glân
- sicrhau nad oes llwch yn yr ardal storio ddynodedig a'i bod yn lân
- didoli a storio unrhyw ddillad gwely glân sy'n cyrraedd yn yr ardal amgaeedig ddynodedig oddi ar y llawr, i atal llwch neu erosolau rhag eu halogi
- cynnal llif gwaith sy'n sicrhau bod dillad gwely glân a dillad gwely wedi'u defnyddio'n cael eu cadw ar wahân
- archwilio dillad gwely glân ar hap i sicrhau eu bod yn lân ac nad oes ganddynt staeniau, rhwygau na thyllau, gan dynnu unrhyw eitemau nad ydynt yn addas i'w defnyddio oddi yno a rhoi gwybod amdanynt
- casglu a chludo'r dillad gwely glân gofynnol yn unol â gofynion y sefydliad
- esbonio wrth yr unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth beth fyddwch yn ei wneud a mynd ati mewn ffordd sy'n cynnal ei urddas a'i ddiogelwch drwyddi draw, gan sicrhau bod yr unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei wneud yn gyfforddus ar ddiwedd y weithdrefn
- osgoi halogi dillad gwely glân trwy beidio â'u dal wrth eich corff, eu siglo, eu gollwng ar y llawr na'u gosod ar arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml, gan gynnwys loceri neu fyrddau gwely
- cynnal stoc ddigonol o ddillad gwely glân a rhoi gwybod am ddefnydd sylweddol annisgwyl er mwyn sicrhau bod y stoc yn cael ei ailgyflenwi
- lleihau faint o ddillad gwely glân sy'n cael eu gosod wrth erchwyn y gwely a dychwelyd unrhyw ddillad gwely heb eu defnyddio i'w golchi eto os cawsant eu hamlygu i amgylchedd halogedig
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
- y gadwyn heintio
- hierarchaeth mesurau rheoli
- camau allweddol hylendid y dwylo
- egwyddorion a chymhwyso Cynlluniau Diogelwch Dŵr
- sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
- sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- sut i gael at ddarpariaeth cymorth cyntaf
- sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
- sut i stocio, storio a defnyddio dillad gwely glân
- sut i gynnal llif gwaith sy'n sicrhau bod dillad gwely glân a dillad gwely wedi'u defnyddio'n cael eu cadw ar wahân
- gweithdrefnau ar gyfer trafod dillad gwely wedi'u defnyddio yn ddiogel yn y golchdy
yr amrywiaeth o gamau priodol i'w cymryd pan fydd amlygiad yn digwydd wrth gludo dillad gwely glân neu ddillad gwely wedi'u defnyddio:
- rhoi cymorth cyntaf ar unwaith i'r ardal wedi'i hamlygu, gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
- rhoi gwybod am y digwyddiad ar unwaith a cheisio cyngor pellach am yr angen am ofal meddygol pellach
- cofnodi'r digwyddiad, gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHICP12
Galwedigaethau Perthnasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Risg, haint, atal, glân, dillad gwely