Lleihau risg lledaenu haint wrth olchi dillad gwely wedi’u defnyddio

URN: SFHIPC11
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â lleihau risg halogiad a thraws-heintio wrth olchi dillad gwely wedi'u defnyddio. Mae'r safon hon yn berthnasol i ardaloedd dynodedig ar gyfer golchi o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw'n cwmpasu dillad gwely ymbelydrol, pan fydd angen rhagofalon ychwanegol.

Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyflawni hylendid effeithiol y dwylo a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn unol â'r polisïau/gweithdrefnau lleol a chenedlaethol ar gyfer trafod dillad gwely wedi'u defnyddio yn y golchdy
  6. didoli dillad gwely wedi'u defnyddio sy'n cyrraedd y golchdy, yn yr ardal ddynodedig
  7. lle y bydd dillad gwely wedi'u defnyddio yn cyrraedd mewn bag sy'n toddi mewn dŵr, sicrhau na chaiff ei agor a'i fod yn cael ei roi'n gyfan yn y peiriant golchi priodol
  8. rhoi gwybod am unrhyw eitemau amhriodol sy'n cael eu darganfod yn ystod y didoli, gan gynnwys eiddo'r unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth neu gyfarpar gofal, a'u cadw i'ch dychwelyd neu eu gwaredu
  9. rhoi gwybod am unrhyw offer miniog sy'n cael eu darganfod yn ystod y didoli a'u gwaredu'n ddiogel, ar unwaith, mewn cynhwysydd offer miniog cymeradwy gan ddefnyddio'r cyfarpar diogelu personol priodol
  10. cymryd camau priodol pan fydd amlygiad yn digwydd wrth olchi'r dillad gwely wedi'u defnyddio
  11. llenwi'r peiriant golchi i'r lefel gywir, ychwanegu'r glanedydd priodol a dewis y cylch a'r tymheredd cywir ar gyfer y math o ddillad gwely i'w golchi, yn unol â pholisi/gweithdrefnau lleol a chenedlaethol a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  12. sicrhau bod glanedyddion a dihalogyddion yn cael eu defnyddio a'u storio yn unol â'r rheoliadau ynghylch sylweddau sy'n beryglus i iechyd a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  13. monitro ac addasu'r peiriant, fel y bo angen, i sicrhau bod y cylchoedd golchi, rinsio a sychu'n cael eu cwblhau yn ôl y bwriad
  14. dadlwytho'r peiriant golchi ac, os yw'n briodol, gwaredu unrhyw fagiau sy'n toddi mewn dŵr ar ôl yr olch.
  15. gwirio a oes ôl baeddu i'w weld o hyd ar unrhyw eitemau, rhoi gwybod am fethiant posibl y cylch i bobl eraill berthnasol ac ail-olchi'r eitemau a ddefnyddiwyd
  16. tynnu unrhyw gyfarpar diogelu personol a ddefnyddiwyd yn ystod y broses lwytho, gan waredu unrhyw gyfarpar tafladwy mewn bin gwastraff priodol.
  17. glanhau neu ddiheintio unrhyw gyfarpar anhafladwy yn barod i'w hailddefnyddio
  18. parhau i gadw dillad gwely glân a chyfarpar cysylltiedig ar wahân i ddillad gwely wedi'u defnyddio
  19. cyn trafod dillad gwely glân, golchi'r dwylo a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn unol â'r polisi/gweithdrefnau lleol
  20. smwddio, didoli a phecynnu dillad gwely glân yn barod i'w dosbarthu, gan eu harchwilio i sicrhau eu bod yn lân ac nad oes staeniau i'w gweld arnynt, gan dynnu a rhoi gwybod am unrhyw eitemau nad ydynt yn addas i'w defnyddio
  21. sicrhau bod yr holl gyfarpar golchi dillad yn cael eu cadw'n lân, gan gynnwys pob ardal gyswllt ar beiriannau, gan gynnwys dolenni drysau a wynebfyrddau, i atal traws-halogiad
  22. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  23. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
  9. y gadwyn heintio
  10. hierarchaeth mesurau rheoli
  11. camau allweddol hylendid y dwylo
  12. sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
  13. sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
  14. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  15. sut i gael at ddarpariaeth cymorth cyntaf
  16. y cyfarpar diogelu personol priodol i'w ddefnyddio wrth gludo dillad gwely
  17. y bagiau a'r cynwysyddion gwastraff cod lliw gwahanol sydd ar gael a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
  18. sut i drafod dillad gwely wedi'u gwahanu mewn bagiau yn ddiogel yn y mannau casglu a dosbarthu
  19. sut i drafod a gwaredu offer miniog yn ddiogel
  20. y bagiau, y bagiau sy'n toddi mewn dŵr a'r cynwysyddion gwastraff sydd â chod lliw gwahanol sydd ar gael a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
  21. gweithdrefnau ar gyfer trafod dillad gwely wedi'u defnyddio yn ddiogel yn y golchdy
  22. sut i gynnal llif gwaith sy'n sicrhau bod dillad gwely glân a dillad gwely wedi'u defnyddio'n cael eu cadw ar wahân
  23. sut i weithredu cyfarpar a pheiriannau golchi dillad
  24. y cylchoedd golchi a sychu a'r glanedyddion a'r diheintyddion a ddefnyddir ar gyfer gwahanol fathau o ddillad gwely
  25. sut i roi gwybod am ddigwyddiadau, helyntion neu ddamweiniau andwyol
  26. yr amrywiaeth o gamau priodol i'w cymryd pan fydd amlygiad yn digwydd wrth gludo dillad gwely glân neu ddillad gwely wedi'u defnyddio:

    • rhoi cymorth cyntaf ar unwaith i'r ardal wedi'i hamlygu, gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
    • rhoi gwybod am y digwyddiad ar unwaith a cheisio cyngor pellach am yr angen am ofal meddygol pellach
    • cofnodi'r digwyddiad, gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
  27. sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau

  28. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  29. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHIPC11

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Risg, haint, atal, golchi, dillad gwely