Lleihau risg lledaenu haint wrth gludo dillad gwely glân neu ddillad gwely wedi’u defnyddio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chludo dillad gwely glân neu ddillad gwely wedi'u defnyddio, a dillad gwely heintus, y dylid eu gwneud yn gyfan gwbl ar wahân gan ddefnyddio trolïau neu gerbydau a luniwyd yn benodol ar gyfer pob tasg i leihau risg trosglwyddo haint.
Mae'n berthnasol i bob lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a lleoliadau gofal ambiwlans.
Nid yw'r safon hon yn cwmpasu cludo dillad gwely ymbelydrol na dillad gwely gan unigolion â chlefydau heintus hysbys, pan fydd angen rhagofalon ychwanegol.
Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon, fodd bynnag mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'Dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio fel y bo'n briodol.
Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyflawni hylendid effeithiol y dwylo a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn unol â gofynion y sefydliad
- sicrhau nad yw cynwysyddion dillad gwely sydd heb eu llenwi neu eu diogelu'n gywir yn unol â gofynion y sefydliad yn cael eu casglu na'u cludo
- casglu dillad gwely mewn cynhwysydd, wedi'i ddiogelu, o ardaloedd dynodedig yn unol â'r amserlen gytunedig a chan ddefnyddio'r technegau symud a thrafod cywir
- cludo'r dillad gwely i'r pwynt casglu neu'n uniongyrchol i'r golchdy, yn ddiogel ac mewn cynhwysydd, gan ddefnyddio troli neu gerbyd a luniwyd yn benodol ar gyfer casglu dillad gwely wedi'i ddefnyddio
- sicrhau bod unrhyw drolïau neu gerbydau yn cael eu glanhau, gyda neu heb ddiheintio, ar ôl eu defnyddio a gwirio eu bod yn gweithio'n iawn cyn eu hailddefnyddio; os nad ydynt, dylid eu cadw ar wahân a rhoi gwybod amdanynt
- tynnu cyfarpar diogelu personol gan waredu unrhyw gyfarpar defnydd untro mewn cynhwysydd gwastraff priodol, glanhau neu ddiheintio unrhyw gyfarpar ailddefnyddiadwy yn barod i'w ailddefnyddio
- casglu a chludo dillad gwely glân gan osgoi eu traws-halogi â dillad gwely wedi'u defnyddio, gan ddefnyddio troli neu gerbyd a luniwyd yn benodol ar gyfer dosbarthu dillad gwely glân
- cymryd camau priodol pan fydd amlygiad yn digwydd wrth gludo dillad gwely wedi'u defnyddio neu ddillad gwely glân
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
- y gadwyn heintio
- hierarchaeth mesurau rheoli
- camau allweddol hylendid y dwylo
- sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
- sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- sut i gael at ddarpariaeth cymorth cyntaf
- y cyfarpar diogelu personol priodol i'w ddefnyddio wrth gludo dillad gwely
- y bagiau a'r cynwysyddion gwastraff cod lliw gwahanol sydd ar gael a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
- sut i drafod dillad gwely wedi'u gwahanu mewn bagiau yn ddiogel yn y mannau casglu a dosbarthu
- sut i gludo dillad gwely glân a dillad gwely wedi'u defnyddio yn gywir i atal halogiad
- sut i roi gwybod am ddigwyddiadau, helyntion neu ddamweiniau andwyol
yr amrywiaeth o gamau priodol i'w cymryd pan fydd amlygiad yn digwydd wrth gludo dillad gwely glân neu ddillad gwely wedi'u defnyddio:
- rhoi cymorth cyntaf ar unwaith i'r ardal wedi'i hamlygu, gan ddilyn canllawiau cenedlaethol/lleol
- rhoi gwybod am y digwyddiad ar unwaith a cheisio cyngor pellach am yr angen am ofal meddygol pellach
- cofnodi'r digwyddiad, gan ddilyn polisïau lleol
sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel