Lleihau risg lledaenu haint trwy lanhau, diheintio a chynnal a chadw amgylcheddau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â lleihau risg lledaenu haint trwy lanhau, diheintio a chynnal a chadw amgylcheddau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a lleoliadau gofal ambiwlans, ond nid yw'n cynnwys lleoliadau arbenigol, fel labordai, fferyllfeydd neu theatrau llawdriniaethau, lle y gall fod angen dulliau mwy arbenigol.
Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon; fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'Dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio, fel y bo'n briodol.
Mae'r safon yn canolbwyntio'n benodol ar weithgareddau i atal a rheoli haint trwy ddelio â glanhau a dihalogi:
· cyfarpar
· yr amgylchedd
· gollyngiadau
Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- ystyried risg bosibl amlygu'ch hun a phobl eraill i ficro-organebau heintus, cyn ac yn ystod pob gweithgarwch y byddwch yn ymgymryd ag ef
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer y gweithgaredd a sicrhau hylendid effeithiol y dwylo cyn ac ar ôl y gweithgaredd
glanhau, gyda neu heb ddiheintio:
- ar sail arferol, wedi'i drefnu, gan ddilyn gweithdrefnau cenedlaethol a gweithdrefnau'r sefydliad
- pan fydd yr amgylchedd i'w weld yn fudr, neu fel y bo angen
- yn syth ar ôl gollwng gwaed neu hylifau'r corff
- pryd bynnag y caiff unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth ei ryddhau neu ei drosglwyddo o'i amgylchedd gofal, i sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel i dderbyn yr unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth nesaf
defnyddio deunyddiau glanhau a diheintio sy'n cael eu hargymell gan bolisïau lleol a chenedlaethol a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer eu defnyddio
- sicrhau bod eich cyfarpar glanhau a diheintio yn lân, yn addas at eu diben, mewn cyflwr da a bod y codau lliw priodol arnynt, a'u bod yn cael eu storio mewn man glân, sych a dynodedig
sicrhau nad oes llwch nac annibendod mewn unrhyw ardal a'u bod wedi'u glanhau yn drylwyr, gan dalu sylw arbennig i:
- yr ardaloedd hynny sy'n cael eu cyffwrdd neu eu defnyddio'n fynych
- pob arwyneb sy'n wynebu tuag i fyny
- ardaloedd glanweithiol
- ardaloedd anodd eu cyrraedd, y gallai glanhau arferol eu hesgeuluso
gwaredu hylifau glanhau a diheintio hen neu heb eu defnyddio mewn ardal ddynodedig yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn effeithiol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad a sicrhau hylendid y dwylo ar ôl tynnu/gwaredu
rhoi gwybod i berson priodol am unrhyw broblemau sy'n codi yn gysylltiedig â:
- chyfleusterau neu gyflenwadau
- risgiau haint neu beryglon y mae ymdrin â nhw y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb
- cyflwr cadeiriau, matresi neu ddodrefn
- cyfarpar y mae'n rhaid eu hanfon at drydydd parti i'w harchwilio, eu gwasanaethu neu eu hatgyweirio.
gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
- y gadwyn heintio
- hierarchaeth mesurau rheoli
- camau allweddol hylendid y dwylo
- sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
- sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- y cyfarpar diogelu personol priodol i'w defnyddio wrth lanhau, gyda neu heb ddiheintio, gollyngiadau gwahanol neu wrth weithio mewn amgylcheddau gwahanol
- egwyddorion sut mae glanedydd (detergent) yn gweithio
- gwahanol gategorïau diheintyddion
- sut i adnabod a oes angen glanhau eitem neu ei glanhau a'i diheintio
- y defnydd o weips (gyda glanedydd a/neu ddiheintydd wedi'i gynnwys ynddynt ymlaen llaw) ar gyfer dihalogi arwynebeddau a chyfarpar, a'u cyfyngiadau.
- pwysigrwydd rinsio a sychu.
- sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
- amserlenni glanhau ac adegau eraill pan ddylid glanhau
- glanhau peiriannau a chyfarpar
- sut i wahaniaethu rhwng cyfarpar a/neu gyfarpar diogelu personol defnydd untro, defnydd unigol untro ac ailddefnyddadwy, a sut i'w gwaredu, eu golchi, eu glanhau, eu diheintio, eu cynnal a chadw a'u storio'n ddiogel
- defnydd, gwanediad, dulliau defnyddio, amser cyswllt, dull storio, dull cludo a dull gwaredu diogel cynnyrch sy'n cael eu defnyddio i ddelio â gollyngiadau
- sut i wahanu gwahanol gategorïau gwastraff
- y bagiau, y cynwysyddion gwastraff a'r cyfarpar cod lliw gwahanol sydd ar gael, a'r defnydd cywir ar bob un ohonynt
- eitemau yn yr amgylchedd sy'n gallu cael eu halogi ac y mae'n rhaid eu glanhau rhwng eu defnyddio ar gyfer gwahanol unigolion sy'n derbyn gofal.
- sut mae digwyddiadau/brigiadau haint yn effeithio ar yr angen am lanhau/diheintio estynedig neu ychwanegol.
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel