Monitro, gwerthuso a gwella’r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth mewn cyd-destun iechyd
URN: SFHHI9
Sectorau Busnes (Suites): Gwybodeg Iechyd
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro, gwerthuso ac argymell gwelliannau i’r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth. Bydd angen i chi sefydlu a defnyddio dulliau monitro, gan gynnwys cyfweld, yn ogystal ag argymell gwelliannau i’r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- trafod a chytuno ar yr agweddau ar reolaeth data a gwybodaeth y mae angen eu monitro a'u gwerthuso gyda chydweithwyr a phobl berthnasol eraill
- sefydlu'r cyswllt a'r ymgynghori gofynnol gyda chydweithwyr a phobl berthnasol eraill
- sefydlu a defnyddio dulliau addas ar gyfer monitro a gwerthuso'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth
- monitro a gwerthuso'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
- dadansoddi a chofnodi canlyniadau monitro a gwerthuso o fewn yr amserlen ofynnol
- gwirio cydymffurfiad â safonau cenedlaethol, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
- seilio argymhellion am welliannau i'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth ar ganlyniadau monitro a gwerthuso
- nodi pobl berthnasol eraill y mae angen eu cynnwys wrth ddatblygu argymhellion am welliannau
- cyflwyno'ch argymhellion am welliannau ar ffurf a all arwain at weithredu effeithiol
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cadw at lywodraethu gwybodaeth a'r rhesymau dros wneud hynny
- sensitifrwydd ehangach data a gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch rôl
- y cyd-destun iechyd a busnes ar gyfer rheolaeth ar ddata a gwybodaeth
- y gwahanol ffyrdd y caiff data a gwybodaeth eu prosesu a'u defnyddio mewn cyd-destun iechyd
- y ffyrdd y mae unigolion yn cymryd cyfrifoldeb am eu gofal iechyd a'r mynediad sydd ganddynt i'w gwybodaeth
- llif data a gwybodaeth o fewn eich maes gwaith
- proses rheolaeth data a llifoedd gwybodaeth
- strwythur data a gwybodaeth
- nodweddion data a gwybodaeth
- pwysigrwydd ansawdd data a gwybodaeth, gan gynnwys amseroldeb, cywirdeb, cyflawnder, priodoldeb at y diben a hygyrchedd
- y gwahanol ddulliau o ddilysu a gwirio ansawdd data a gwybodaeth, a sut i'w defnyddio
- sut i fonitro ac adolygu gweinyddu data a gwybodaeth
- pwysigrwydd cael fframwaith clir i fonitro a gwerthuso data a gwybodaeth o'i fewn
- pwysigrwydd cyfathrebu a thrafod monitro a gwerthuso data a gwybodaeth gyda chydweithwyr a phobl eraill berthnasol
- y prosesau i ennyn diddordeb cydweithwyr clinigol
- sut i gynnal ymwybyddiaeth o newid technolegol a sut gallai'r rhain wella'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHHI9
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Monitro; gwerthuso, gwella, rheolaeth; data; gwybodaeth