Dadansoddi data a gwybodaeth a chyflwyno allbynnau mewn cyd-destun iechyd
URN: SFHHI8
Sectorau Busnes (Suites): Gwybodeg Iechyd
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dadansoddi data a gwybodaeth a chyflwyno allbynnau'r dadansoddiad.
Bydd angen i chi allu dewis a defnyddio offer a thechnegau priodol i ddadansoddi data a gwybodaeth. Bydd offer a thechnegau yn amrywio yn ôl y data a'r wybodaeth sy'n cael eu dadansoddi a'ch maes gwaith. Hefyd, bydd angen i chi allu cyflwyno allbynnau dadansoddiad data a gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau addas. Bydd dulliau cyflwyno'n dibynnu ar anghenion y gynulleidfa a'r math o ddata a gwybodaeth sy'n cael ei gyflwyno.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- asesu'r offer a'r technegau sydd ar gael o ran perthnasedd a chymhwysedd
- dewis yr offer a'r technegau priodol, gan dalu sylw priodol i ansawdd y data a'r wybodaeth sydd ar gael
- penderfynu ar yr adnoddau y mae eu hangen i gymhwyso'r offer a'r technegau a ddewiswyd
- cofnodi'ch sail resymegol dros ddewis yr offer a'r technegau
- gwirio cydymffurfiad â llywodraethu gwybodaeth, yn unol â deddfwriaeth a gofynion y sefydliad
- dadansoddi'r data a'r wybodaeth yn gywir, gan ddefnyddio'r offer a'r technegau priodol
- cadw at y safonau data perthnasol
- nodi ac amlygu unrhyw anghysondebau a chyfyngiadau
- crynhoi a dod i gasgliadau y gellir eu cyfiawnhau o'r dadansoddiad
- rhoi gwybod i'r unigolyn priodol/bobl briodol pan fydd goblygiadau arwyddocaol sy'n galw am wneud penderfyniad
- dwyn perchenogaeth ar allbynnau'r dadansoddiad data a gwybodaeth
- nodi'r gynulleidfa darged ar gyfer allbynnau'r dadansoddiad
- dewis dull cyflwyno sy'n briodol i'r data a'r wybodaeth ac sy'n addas i'r gynulleidfa
- cyflwyno allbynnau'r dadansoddiad mewn ffordd sy'n gyson, yn gymaradwy ac sy'n cyd-fynd â fformatau cytunedig, gofynion llywodraethu a safonau perthnasol
- sicrhau bod pob rhagdybiaeth a wnaed a graddau ansicrwydd yn y data a'r wybodaeth yn glir
- gwirio bod y gynulleidfa darged wedi cael allbynnau'r dadansoddiad
- gwneud unrhyw newidiadau dilys i'r data a'r wybodaeth ffynhonnell ar sail adborth gan eraill a, lle bo'r angen, rhoi gwybod i berchenogion y data a'r wybodaeth
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cadw at lywodraethu gwybodaeth a'r rhesymau dros wneud
- sensitifrwydd ehangach data a gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch rôl
- safonau ynghylch data a gwybodaeth
- y protocolau rhannu data sydd ar waith sy'n berthnasol i ffynonellau data
- y cyd-destun iechyd a busnes ar gyfer gofynion data a gwybodaeth
- y gwahanol ffyrdd y caiff data a gwybodaeth eu prosesu a'u defnyddio mewn cyd-destun iechyd
- strwythur data a gwybodaeth
- nodweddion data a gwybodaeth a sut maent yn newid gydag amser
- pwysigrwydd ansawdd data a gwybodaeth, gan gynnwys amseroldeb, dilysrwydd, cywirdeb, cyflawnder, priodoldeb at y diben a hygyrchedd
- y gwahanol ddulliau o ddilysu a gwirio ansawdd data a gwybodaeth, a sut i'w defnyddio
- cylchoedd oes data a gwybodaeth a'r prosesau ynddynt
- gofynion y gynulleidfa am ddata a gwybodaeth, ynghyd â gwybodaeth a sgiliau tebygol y gynulleidfa
- yr offer a'r technegau sydd ar gael i ddadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth
- sut i ddewis a defnyddio'r offer a'r technegau
- cyfyngiadau'r offer a'r technegau sydd ar gael
- y mathau o anghysondebau a all ddigwydd a sut gellir nodi'r rhain
- y safonau, y confensiynau a'r templedi ar gyfer dadansoddi
- y dulliau cyflwyno ar gyfer arddangos ac adrodd ar ddadansoddiad data a gwybodaeth
- y strwythurau adrodd sy'n bodoli yn eich sefydliad
- y rhesymau pam mae'n bwysig gwirio bod y gynulleidfa wedi cael y data a'r wybodaeth
- yr effaith bosibl y bydd cyflwyno'r allbynnau yn ei chael
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHHI8
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
dadansoddi; data, gwybodaeth: cyflwyno