Hybu cyfathrebu effeithiol mewn amgylchedd gofal iechyd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â hybu cyfathrebu effeithiol ag unigolion, neu grwpiau o unigolion, mewn amgylchedd gofal iechyd. Bydd disgwyl i chi gymhwyso amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, yn briodol i unigolion ac i’r sefyllfa, er mwyn hwyluso a hybu canlyniadau adeiladol. Bydd disgwyl i chi allu cyfathrebu’n effeithiol ynghylch materion anodd, cymhleth a sensitif.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a defnyddio'r dulliau a'r technegau cyfathrebu mwyaf priodol ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd i hwyluso a chyflawni canlyniadau cadarnhaol
- cychwyn cysylltiad uniongyrchol ag unigolion pan fo'n briodol gwneud hynny
- nodi ffyrdd o ymgysylltu ag unigolion a'u hannog i gyfathrebu â nhw
- addasu cynnwys ac arddull eich cyfathrebu i fodloni anghenion yr unigolyn neu'r grwpiau
- sylwi ar ymatebion unigolion, gan addasu cynnwys ac arddull eich cyfathrebu i hybu canlyniadau cadarnhaol
- defnyddio sgiliau cyfathrebu yn sensitif i roi cymorth i unigolion
- cefnogi unigolion i gyfnewid cyfathrebiadau ag eraill
- hybu cyfenwid cyfathrebiadau adeiladol yn ystod sefyllfaoedd heriol
- gwirio'ch bod chi'n deall beth sy'n cael ei gyfleu
- sicrhau bod pobl eraill yn deall y wybodaeth rydych chi'n ei chyfleu ac egluro pwyntiau, lle bo'r angen
- parchu dymuniadau unigolion i beidio â chymryd rhan mewn cyfathrebu
- darparu gwybodaeth berthnasol, briodol a chynhwysfawr pan fyddwch chi'n cyfathrebu ag eraill
- cynnal a pharchu cyfrinachedd gwybodaeth ym mhob cyfathrebu
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- polisïau, gweithdrefnau a chodau ymddygiad y sefydliad sy'n berthnasol i'ch cyfrifoldebau wrth gyfathrebu ag unigolion ynghylch materion cymhleth a sensitif
y dulliau cyfathrebu sy'n fwyaf addas i'r sefyllfa, sydd:
- yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth
- yn hybu hawliau pobl i gyfathrebu gan ddefnyddio'r dull, y cyfrwng a'r iaith o'u dewis
- yn effeithiol wrth ddelio â gwahaniaethu a'i herio
- yn annog unigolion i ymroi i gyfathrebu
pwysigrwydd hybu llif cadarnhaol o wybodaeth rhwng unigolion
pwysigrwydd hybu cysylltiad uniongyrchol sydd:
- yn mynd i'r afael ag anghenion yr unigolyn neu grwpiau o unigolion
- yn cydnabod yr angen i unigolion neu grwpiau gyfathrebu yn ôl eu cyflymder eu hunain
- yn hybu cyd-ddealltwriaeth
- yn hybu gwrando gweithredol
y gwahanol ddulliau a thechnegau sy'n cefnogi unigolion wrth ymdrin â materion cymhleth a sensitif
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn neu'r grŵp
- sut i dawelu neu atal gwrthdaro yn ystod sefyllfaoedd heriol
- pryd i adnabod bod distawrwydd yn gymorth effeithiol yn ystod cyfathrebu ar lafar
sut i ddefnyddio cyfathrebu ar lafar neu yn ysgrifenedig sydd:
- yn hwyluso deilliannau cadarnhaol
- yn adeiladol
- yn berthnasol ac yn ddigon cynhwysfawr i'r derbynnydd ei ddeall
- yn defnyddio iaith sy'n briodol i'r cyd-destun, y gynulleidfa a'r wybodaeth sy'n cael ei chyfnewid
- yn ymatebol ar adegau o anhawster, trafferth neu berygl, pan allai materion wella neu waethygu'n gyflym
pwysigrwydd eich sgiliau cyfathrebu chi yn gysylltiedig â chefnogi pobl eraill
- sut mae eich sgiliau cyfathrebu yn adlewyrchu arnoch chi, a'ch sefydliad
- yr egwyddorion cyfrinachedd, diogelwch a rhannu gwybodaeth ar gyfer yr amgylchedd lle'r ydych chi'n gweithio
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel