Cyfathrebu’n effeithiol mewn amgylchedd gofal iechyd
URN: SFHGEN97
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu’n effeithiol ag unigolion mewn amgylchedd gofal iechyd. Bydd disgwyl i chi gyfathrebu’n effeithiol â nifer o bobl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio’ch blaengaredd a dilyn gweithdrefnau’r sefydliad mewn cyfnodau o argyfwng.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydnabod ac ymateb i gyfathrebu yn brydlon
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- dewis y dull cyfathrebu mwyaf priodol i'r unigolion
- sicrhau bod yr amgylchedd ar gyfer cyfathrebu mor ffafriol â phosibl ar gyfer cyfathrebu effeithiol
- addasu eich arddull gyfathrebu sy'n gweddu i'r sefyllfa
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfathrebu gydag unigolion a chymryd y camau priodol
- egluro pwyntiau a gwirio'ch bod chi ac eraill yn deall beth sy'n cael ei gyfleu
- gwrando'n weithredol ac ymateb yn briodol i unrhyw gwestiynau a phryderon sy'n cael eu codi yn ystod y cyfathrebu
- sefydlu llinellau cyfathrebu sy'n eich galluogi chi i gyfathrebu ag unigolion mewn lleoliadau eraill ar adegau o angen neu argyfwng
- cynnal cyfrinachedd gwybodaeth lle y bo'n briodol gwneud hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd ymateb yn brydlon ac yn briodol
pwysigrwydd:
- canolbwyntio ar yr unigolyn
- gofod a'ch safle wrth gyfathrebu
- iaith y corff a chyswllt llygaid wrth gyfathrebu
- rhoi digon o amser i unigolion gyfathrebu
- defnyddio'r dull cyfathrebu a'r iaith y mae'r unigolyn yn eu ffafrio
- gwirio eich bod chi a'r unigolion yn deall eich gilydd
- addasu'ch cyfathrebiadau i gynorthwyo â dealltwriaeth
- gwrando gweithredol
yr anawsterau a all godi o ganlyniad i sefyllfaoedd penodol yn eich maes gwaith a sut a ble i gael cyngor pan fyddwch yn wynebu sefyllfaoedd y tu hwnt i'ch cymhwysedd
- dulliau o weithio gydag unigolion a datrys gwrthdaro neu rwystrau rydych chi'n debygol o ddod ar eu traws wrth gyfathrebu ag unigolion
dulliau a ffyrdd o gyfathrebu sydd:
- yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth
- yn cefnogi hawliau pobl i gyfathrebu yn y dull, y cyfrwng a'r iaith o'u dewis
- yn effeithiol wrth ddelio â gwahaniaethu wrth gyfathrebu ag unigolion, ac yn ei herio
yr egwyddorion cyfrinachedd, diogelwch a rhannu gwybodaeth ar gyfer yr amgylchedd lle'r ydych chi'n gweithio
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- sut mae eich sgiliau cyfathrebu yn adlewyrchu arnoch chi, eich sefydliad a/neu eich gweithle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN97
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cyfathrebu, effeithiol, gofal iechyd, amgylchedd