Cynnal arferion iechyd a diogelwch o fewn lleoliad iechyd

URN: SFHGEN96
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â sylw parhaus a chyson pob unigolyn at gynnal ei arferion iechyd a diogelwch mewn lleoliad iechyd i’w amddiffyn ei hun a phobl eraill yn ystod pob gweithgaredd gwaith. Hefyd, mae’n ymwneud â diogelwch personol a mynediad at amgylcheddau gwaith. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. herio a chadarnhau hawl pobl i gael mynediad i'r amgylchedd gwaith a chymryd camau prydlon a phriodol i ymateb i unrhyw broblemau diogelwch
  6. gwirio'r asesiadau risg i nodi'r peryglon a'r risgiau cysylltiedig sy'n berthnasol i'ch gweithgareddau gwaith a phryd bynnag y caiff protocolau, gweithdrefnau, technegau neu gyfarpar newydd eu cyflwyno i'ch ymarfer yn y gwaith
  7. cynnal asesiad risg dim ond os na fydd asesiad risg wedi'i gwblhau neu gyfeirio at gydweithwyr os bydd hyn y tu hwnt i'ch awdurdod
  8. dilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan weithgynhyrchwyr a'r canllawiau asesu risg i sicrhau bod peryglon yn cael eu rheoli o fewn eich arferion gweithio
  9. gwirio bod yr holl adnoddau yn gweithredu'n llawn a bod deunyddiau'n addas at eu diben
  10. cymhwyso'r technegau symud a thrafod diogel sy'n ofynnol ar gyfer eich gweithgareddau gwaith
  11. cynnal ardal waith daclus a glân yn ystod ac yn dilyn gweithgareddau gwaith
  12. sicrhau bod unrhyw adnoddau'n cael eu storio'n ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
  13. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill 
  8. yr amrywiaeth o drefniadau diogelwch personol a mynediad o fewn eich maes gwaith
  9. hawliau mynediad a mynediad i'r amgylchedd gwaith, a phwysigrwydd herio mynediad heb awdurdod, a sut i wneud hynny
  10. yr amrywiaeth o fesurau iechyd a diogelwch, rheoli ac atal haint, y rheoliadau diogelu personol perthnasol ac ynysu, eu pwysigrwydd a'u perthnasedd i'r amrywiaeth o weithdrefnau yn eich amgylchedd gwaith a lefel eich cyfrifoldeb
  11. sut i gael a chymhwyso asesiadau risg o fewn eich ymarfer yn y gwaith a lefel eich cyfrifoldeb
  12. sut i wirio bod adnoddau'n weithredol a'u bod at eu diben
  13. y math a'r amrywiaeth o ddiffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau o fewn eich ymarfer yn y gwaith
  14. systemau gweithio diogel a dulliau o ddefnyddio'r adnoddau sy'n berthnasol i'ch gweithgareddau gwaith; eu gofynion dihalogi, gwaredu neu storio priodol
  15. yr amrywiaeth o ddulliau gwaredu gwastraff, gan gynnwys gwaredu deunyddiau peryglus yn berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith a goblygiadau peidio â chydymffurfio
  16. pwysigrwydd delio â gollyngiadau a thoriadau yn y gweithle, a sut i wneud hynny
  17. y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau andwyol neu annisgwyl yn y gweithle
  18. technegau symud a thrafod diogel sy'n berthnasol i'ch maes gwaith
  19. pwysigrwydd cynnal ardaloedd gwaith taclus a glân, a sut y gall gyfrannu at iechyd, diogelwch a mesurau atal a rheoli heintiau
  20. yr amrywiaeth o weithdrefnau glanhau, cyfryngau diheintio a gweithdrefnau dihalogi sy'n briodol i'ch gweithgareddau a'ch maes gwaith, a sut a phryd i'w defnyddio
  21. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  22. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN96

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cynnal, iechyd, diogelwch, lleoliad