Paratoi cerbydau i gludo pobl, deunyddiau a/neu gyfarpar yn y sector iechyd

URN: SFHGEN9
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio a pharatoi cerbydau i gludo pobl, deunyddiau a chyfarpar ar ffyrdd cyhoeddus.

Gallai'r cerbydau gynnwys cerbydau cymalog, bysiau, faniau, bysiau mini neu geir. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. gwirio pob agwedd berthnasol ar y cerbyd yn gywir a chadarnhau bod y cerbyd mewn cyflwr boddhaol ar gyfer y teithiau i'w gwneud
  6. ychwanegu at neu amnewid holl nwyddau traul cerbydau pan nad ydynt ar y lefelau gofynnol neu yn y cyflwr gofynnol
  7. gwirio a chadarnhau addasrwydd a chyflwr cyfarpar, offer a deunyddiau arbenigol
  8. cywiro unrhyw ddiffygion neu namau yn y cerbyd neu'r cyfarpar a'r deunyddiau arbenigol lle y bo'n bosibl
  9. gwirio bod deunyddiau a chyfarpar, sydd i'w cludo, yn gywir ac yn gyflawn
  10. nodi'n gywir unrhyw brinder neu ddifrod i ddeunyddiau a chyfarpar, a rhoi gwybod am hynny i'r person priodol
  11. llwytho deunyddiau a chyfarpar yn gywir i'r cerbyd, a'u storio a'u diogelu'n gywir ac yn ddiogel, gan sicrhau bod eu sefydlogrwydd wedi'i gadarnhau cyn symud y cerbyd
  12. dangos technegau symud a thrafod diogel bob amser
  13. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. y tasgau cynnal a chadw a thrwsio sylfaenol y gallwch eu cyflawni a'r tasgau y dylech eu cyfeirio at bobl eraill
  9. y gwahanol fathau o ddeunyddiau y gallant ac na allant gael eu cludo gyda'i gilydd
  10. sut i adnabod sylweddau peryglus
  11. sut i gludo sylweddau peryglus yn ddiogel.
  12. pam mae angen i lwythi fod yn sefydlog cyn i gerbydau gael eu symud, a sut i wirio sadrwydd llwyth
  13. y math o gyfarpar, adnoddau a deunyddiau arbenigol y mae eu hangen ar gyfer gwahanol brosesau a sut i wirio p'un a ydynt yn gweithio'n gywir ac yn addas i'r llwyth(i) i'w cario
  14. y gofynion storio penodol ar gyfer eitemau sy'n sensitif i dymheredd a beth i'w wneud os na ellir bodloni'r gofynion hyn
  15. sut i wirio, ychwanegu at ac amnewid nwyddau traul cerbydau, a sut i wirio systemau cerbydau, gan adnabod problemau neu namau posibl neu wirioneddol
  16. sut i roi gwybod am namau a phroblemau a pha wybodaeth i'w chynnwys
  17. sut i gynnal tasgau cynnal a chadw a thrwsio sylfaenol o fewn eich cyfrifoldeb
  18. sut i lwytho a diogelu deunyddiau a chyfarpar i'w cludo, a sut i wirio y byddant yn sefydlog yn ystod y daith
  19. sut i symud a thrafod eitemau'n ddiogel, gan gynnwys defnyddio cyfarpar codi, codi gyda pherson arall, ac osgoi symudiadau ailadroddus
  20. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel  

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN9

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Paratoi, cerbydau, iechyd