Symud a chludo unigolion o fewn amgylchedd gofal iechyd
URN: SFHGEN80
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â symud a chludo unigolion o fewn ardaloedd gwaith gofal iechyd. Bydd angen i chi allu nodi’r unigolyn i’w symud a sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i symud yr unigolyn. Hefyd, bydd angen i chi symud yr unigolyn yn ddiogel, a chynnal ei breifatrwydd a’i urddas yn ystod y symud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwirio'r holl fanylion cyn dechrau'r symud
- esbonio'n glir wrth yr unigolyn pwy ydych chi ac i ble'r ydych chi'n mynd â'r unigolyn
- sicrhau bod gennych unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol y mae angen eu cludo gyda'r unigolyn
- gwirio bod y cyfarpar cludo yn ddiogel a'i fod yn gweithredu'n gywir
- defnyddio'r cyfarpar cludo yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cydweithredu ag aelodau staff eraill sydd ynghlwm i gyflawni'r canlyniad gorau posibl i'r unigolyn
- gofalu am yr unigolyn yn ystod y cludo yn unol ag anghenion yr unigolyn, gan gyfrif am natur y salwch neu'r anaf
- defnyddio'r llwybr mwyaf addas i'r unigolyn
- trosglwyddo'r unigolyn ac unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol i'r aelod staff priodol
- cynorthwyo â symud yr unigolyn ymhellach, os oes angen
- rhoi gwybod i'r person perthnasol bod y symud wedi'i gwblhau
- dychwelyd cyfarpar cludo i'r lleoliad cywir
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gweithdrefnau ar gyfer nodi, symud a throsglwyddo unigolion
- sut i wneud i unigolion deimlo'n gartrefol
- sut i symud a chludo unigolion yn gywir, gan gyfrif am natur y salwch neu'r anaf
- y technegau diogel ar gyfer symud a chydio mewn unigolion
- yr amgylchiadau pan fydd angen hebryngwr unigol
- daearyddiaeth yr ardal waith
- y mathau o gofnodion a dogfennau y mae'n rhaid eu cludo gyda'r unigolyn, yn eich sefydliad
- y mathau o gyfarpar cludo sydd ar gael
- sut i ddefnyddio cyfarpar cludo yn gywir
- y mathau o gyfarpar meddygol y gallai fod angen eu symud gyda'r unigolyn
- sut i drafod cyfarpar meddygol yn ddiogel
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN80
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Symud, cludo, unigolion, gofal iechyd, amgylchedd