Cynorthwyo’r ymarferwr i weithredu gweithgareddau gofal iechyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un â rôl lle mae'n ofynnol iddynt weithio o dan gyfarwyddyd ymarferwr cofrestredig i gynnig cymorth yn ystod ymyriadau clinigol neu therapiwtig. O fewn y safon hon, mae 'gweithgarwch' yn cyfeirio at unrhyw weithgarwch gofal iechyd (clinigol/therapiwtig) sydd ag ymarferwr cofrestredig yn cyflawni'r rôl waith. Mae'r safon hon yn cwmpasu rôl y cynorthwyydd wrth gynorthwyo'r ymarferwr yng nghyd-destun llawdriniaeth, ystafell adfer, gweithgarwch rownd ward, ymyriadau therapiwtig neu weithdrefnau clinigol. Mae ffocws y safon ar fod yn effeithiol mewn rôl gynorthwyo, yn hytrach nag yn y sgiliau clinigol/therapiwtig sy'n gysylltiedig â'r ymyrraeth; mae safon arall yn ymdrin â hynny.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau iechyd a rolau mewn gofal mewn argyfwng, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Gall gynnwys unigolion sy'n ymwybodol neu sy'n anymwybodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sicrhau eich bod yn rheoli heintiau yn effeithiol bob amser
- ymateb yn brydlon i geisiadau a chyfarwyddiadau gan yr ymarferwr sy'n arwain y gweithgaredd
- cyflawni gweithgareddau dirprwyedig gan ddilyn y protocolau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd yn unol â chynllun gofal/triniaeth yr unigolyn
- cydweithredu'n effeithiol ac yn rhagweithiol yn ystod gweithredoedd sy'n gofyn am weithio'n agos fel tîm
- cyfleu gwybodaeth ofynnol i eraill yn glir, yn gywir ac yn amserol
- sicrhau eich bod yn cynnal cyfrinachedd gwybodaeth yn unol â gofynion y sefydliad
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- y math a'r ystod o wybodaeth y gall fod ar yr ymarferwr ei hangen cyn neu yn ystod gweithgaredd
- sut i esbonio'ch rôl gynorthwyo a gweithdrefnau i unigolion a gofalwyr mewn iaith y byddant yn ei deall
- protocolau a gweithdrefnau'n gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w wneud
- pwysigrwydd dilyn rhagofalon safonol sy'n berthnasol i'r gweithgaredd a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- polisïau a chanllawiau'r sefydliad yn ymwneud â symud a gosod unigolion a'r effaith a gaiff y rhain ar eich gwaith
- y mathau o wybodaeth y mae'n briodol eu rhoi i bobl eraill am raglen a thriniaeth unigolyn
- sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel