Cyflawni gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar gyfarpar clinigol

URN: SFHGEN78
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni gweithgareddau cynnal a chadw ataliol rheolaidd a/neu gywirol llinell flaen gan y defnyddiwr, ar gyfer cyfarpar, o fewn eich cyd-destun gwaith eich hun. Mae’n sicrhau bod cyfarpar clinigol sy’n cael ei ddefnyddio yn aros yn ddiogel ac yn addas i’w ddiben bwriadedig. Gallwch ddefnyddio’r safon ar gyfer pob math o gyfarpar o fewn cwmpas eich gweithgarwch gwaith arferol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. blaenoriaethu camau gweithredu ar sail cynnal gwasanaethau
  6. rhoi gwybod i bobl eraill berthnasol am bob problem sy'n effeithio ar y gwaith cynnal a chadw ataliol a/neu gywirol llinell flaen gofynnol a'u heffaith ar gyflwyno gwasanaethau
  7. cael at ddata perthnasol o lawlyfrau technegol neu lawlyfrau ategol i gynorthwyo â chynnal a chadw rheolaidd
  8. asesu statws dihalogi a gofynion y cyfarpar i'w gynnal a chadw
  9. cyflawni gweithdrefnau dihalogi/glanhau addas cyn cynnal a chadw, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. cadarnhau bod cyfarpar wedi'i osod yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. cyflawni gweithgareddau cynnal a chadw yn unol â'r amserlen a gofynion y sefydliad
  12. rhoi gwybod am unrhyw adegau pan na ellir cyflawni gweithgareddau cynnal a chadw yn llawn neu lle y mae diffygion wedi'u nodi y tu hwnt i'r amserlen gynlluniedig
  13. gwirio bod cyfarpar yn gweithredu yn unol â pharamedrau gweithredol disgwyliedig er mwyn cadarnhau statws gweithredol
  14. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill 
  8. manylebau a chyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr
  9. sut y gyfathrebu'n effeithiol â phobl eraill berthnasol
  10. y gofynion am gynnal a chadw ataliol rheolaidd a/neu gywirol llinell flaen ar gyfer cyfarpar penodol, gan gynnwys pa mor aml
  11. y dyfeisiau perifferol y mae eu hangen fel bod y cyfarpar yn gweithredu yn y ffordd orau sbosibl
  12. y gofynion rheoli heintiau a'r gweithdrefnau dihalogi fel y bônt yn berthnasol i gyfarpar ac i amgylcheddau
  13. paramedrau perfformio disgwyliedig, egwyddorion gweithredu, galluoedd a chyfyngiadau cyfarpar penodedig
  14. y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio yn y cyfarpar sy'n cael ei gynnal
  15. y goblygiadau i ddiogelwch a'r gweithdrefnau cywir ar gyfer trin a thrafod y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio
  16. y ffactorau sy'n effeithio ar benderfyniadau am weithgarwch cynnal a chadw, gan gynnwys brys, amser, yr effaith ar wasanaethau, cyfarpar arall sydd ar gael, risgiau
  17. y math o gofnodion a'r amrywiaeth o gofnodion y mae eu hangen ar gyfer cynnal a chadw cyfarpar
  18. gwneud diagnosis o namau a negeseuon gwall, a chamau gweithredu priodol
  19. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN78

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cynnal, cynnal a chadw, rheolaidd, cyfarpar, clinigol