Storio a chludo silindrau nwy meddygol
URN: SFHGEN76
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â storio a chludo silindrau nwy meddygol yn ddiogel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
gwirio bod silindrau nwy meddygol yn cael eu storio'n ddiogel ac:
- nad ydynt mewn tymereddau eithafol
- eu bod mewn ardaloedd sych, glân a digon o aer
- nad ydynt gerllaw hylifau hynod fflamadwy a deunyddiau llosgadwy eraill
- nad ydynt gerllaw ffynonellau gwres a thanio
sicrhau bod silindrau llawn, gwag neu silindrau gyda nwyon gwahanol i gyd yn cael eu storio yn unol â chyfarwyddiadau'r sefydliad
- defnyddio technegau codi a chario cywir, gan ddiogelu dyfeisiau a chyfarpar wrth godi, symud a chludo silindrau
- cludo silindrau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwneud yn siŵr nad yw silindrau'n dod i gysylltiad ag olewau a allai adweithio â'r nwy yn y silindrau
- gwirio lefelau stoc a rhoi gwybod i berson priodol am niferoedd isel
- cymryd camau rhagofalus i ddiogelu silindrau rhag cael eu dwyn
gwirio labeli a gwneud yn siŵr:
- bod y label yn gyfan
- mai'r silindr rydych chi'n ei gludo yw'r silindr y gofynnwyd amdano
gwirio'r silindr am ollyngiadau a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- y technegau codi a chario cywir ar gyfer symud a chludo silindrau
- sut i storio silindrau nwy meddygol yn ddiogel a pham mae hyn yn bwysig
- y codau lliw a'r symbolau ar silindrau nwy meddygol
- pwysigrwydd cynnal cofnodion cyflenwadau nwy meddygol
- y perygl posibl i silindrau nwy pwysedd uchel ffrwydro os dônt i gysylltiad â nwy, saim ac elïau wrth godi a chario silindrau
- y lefelau stoc isel ar gyfer pob math y nwy y mae ar y sefydliad eu hangen
- gweithdrefn y sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw gyfarpar sy'n gollwng
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN76
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Storio, cludo, silindrau, nwy, meddygol