Monitro a rheoli’r amgylchedd ac adnoddau yn ystod ac ar ôl gweithgareddau gofal iechyd
URN: SFHGEN7
Sectorau Busnes (Cyfresi): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’r amgylchedd uniongyrchol a’r adnoddau a ddefnyddir yn ystod gweithgareddau gofal iechyd rydych chi naill ai’n eu cyflawni eich hun neu’n cael eich arwain gan ymarferwr cofrestredig. Byddwch yn gyfrifol am reoli’r amgylchedd a’r adnoddau fel eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr effeithiol tra bydd y weithdrefn yn mynd rhagddi a byddwch yn gyfrifol am ailgyflenwi’r adnoddau ar ôl y digwyddiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- gweithredu cyfarpar yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau sefydliadol
- trafod pob adnodd yn ddiogel, yn gyson â thechnegau rheoli heintiau a gofynion eraill y sefydliad sy'n briodol i'r weithdrefn ac i'r lleoliad
- monitro amodau amgylcheddol yn rheolaidd a'u cynnal ar y lefelau cywir i sicrhau cysur unigol a'u bod yn cyd-fynd â gofynion y weithdrefn
- monitro gweithrediad cyfarpar yn rheolaidd a chadarnhau bod y cyfarpar yn gweithio'n dda
- monitro defnyddiau traul a ddefnyddir yn y gweithgaredd yn gywir ac yn ddiogel, a'u hailgyflenwi a'u hamnewid yn unol â phrotocolau
- glanhau eitemau gosod yn effeithiol ar ôl eu defnyddio, gan ddefnyddio'r deunyddiau priodol
- dychwelyd adnoddau heb eu hagor na'u defnyddio, ac adnoddau dros ben, i'r lleoliad cywir i'w storio
- glanhau eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn effeithiol ar ôl eu defnyddio a'u gwneud nhw'n ddiogel cyn eu storio
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pam mae angen cymryd camau yn gysylltiedig â rheoli haint
- ffynonellau haint posibl a sut i'w rheoli yn ystod ac ar ôl gweithdrefn
- atebolrwydd a chyfrifoldeb am fonitro a rheoli cyfarpar ac adnoddau eraill
- nodweddion gweithredol cyfarpar a deunyddiau a ddefnyddiwyd a sut i adnabod pan nad yw'r rhain o'r ansawdd gofynnol
- yr adnoddau hanfodol y mae eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- y gweithdrefnau i'w cyflawni a'r cyfarpar a'r deunyddiau i'w defnyddio sy'n gysylltiedig â'r rhain
- pwysigrwydd sicrhau bod y nifer cywir o ddefnyddiau traul ar gael trwy gydol y gweithgaredd, a'u bod o'r ansawdd cywir
- sut i gadarnhau bod cyfarpar (gan gynnwys cyfarpar trydanol) yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio
- dulliau o drafod offerynnau, cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel
- sut gall y lefel glendid gywir gael ei chynnal
- y ffordd gywir o storio offerynnau a chyfarpar a ddefnyddiwyd yn y weithdrefn
- dulliau a ddefnyddir i ailgyflenwi, cynnal a chadw a glanhau cyfarpar, a pham mae'n bwysig ailgyflenwi ac amnewid cyflenwadau yn rheolaidd
- pa mor aml sydd orau ar gyfer monitro adnoddau
- y gwahanol fathau o wastraff a sgil-gynnyrch y mae'r gweithgaredd yn eu cynhyrchu
- sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN7
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Monitro, rheoli, amgylchedd, adnoddau, clinigol, therapiwtig