Rheoli’r defnydd o adnoddau ffisegol
URN: SFHGEN66
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheolaeth ariannol a’i heffaith ar ddyrannu adnoddau ac effeithlonrwydd adnoddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- rhoi cyngor clir a chyson i aelodau tîm ar sut y gallant helpu i reoli gwariant a'r defnydd o adnoddau
- rhoi cyfleoedd i aelodau tîm gymryd cyfrifoldeb unigol am fonitro a rheoli gwariant
- monitro gwariant yn erbyn cyllidebau, a'r defnydd o adnoddau, yn unol â gofynion y sefydliad
- cadarnhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn gyfrifol
- rheoli gwariant a'r defnydd o adnoddau yn unol â chyllidebau a gofynion y sefydliad
- cymryd camau cywirol i ymateb i amrywiadau arwyddocaol posibl, neu wirioneddol, o'r gyllideb yn brydlon, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer rheoli gwariant, gweithdrefnau awdurdodi a chadw cofnodion
- yr ystod o amrywiadau o'r gyllideb a all ddigwydd, a pha gamau cywirol effeithiol i'w cymryd i ymateb i'r rhain
- y mathau o geisiadau am wariant y tu hwnt i'ch rheolaeth sy'n debygol o ddigwydd a'r gweithdrefnau cywir i'w dilyn i ymateb i'r rhain
- pwysigrwydd rheoli gwariant yn effeithiol i alluogi effeithlonrwydd, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau yn gysylltiedig â hyn
- yr egwyddorion a'r systemau wrth wraidd rheoli gwariant yn effeithiol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN66
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Rheoli, adnoddau, ffisegol, ariannol