Gwneud argymhellion ar gyfer defnyddio adnoddau ffisegol
URN: SFHGEN65
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynigion ac argymhellion ar gyfer defnyddio adnoddau ffisegol yn effeithiol a gallant gynnwys defnyddio staff, cyfarpar, cyfleusterau, cyflenwadau, ac ati, naill ai ar gyfer prosiect unigol neu fel rhan o waith datblygu a gosod cyllidebau blynyddol neu barhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- darparu cyfleoedd i randdeiliaid perthnasol wneud argymhellion ar gyfer gwariant yn y dyfodol
- sicrhau bod eich cynigion yn ystyried profiad yn y gorffennol, tueddiadau a datblygiadau
- gwneud cynigion ac argymhellion ar sail dehongliad cywir o ddata dilys a gwerthusiad realistig o risg
- nodi ffactorau eraill sy'n debygol o effeithio ar wariant yn y dyfodol
- datgan, yn glir ac yn gryno, y buddion disgwyliedig, y costau ynghlwm ac unrhyw ganlyniadau negyddol posibl
- ystyried opsiynau eraill ar gyfer gwariant a rhoi rhesymau dilys pam rydych chi wedi'u gwrthod nhw
- darparu digon o wybodaeth ddilys i bobl berthnasol benderfynu ar eich cynigion
- darparu cyfiawnhad ariannol a digon o wybodaeth ddilys fel y gall eich cynigion cael eu gwerthuso'n realistig
- cyflwyno cynigion i randdeiliaid perthnasol mewn fformat priodol ac ar amser priodol
- trafod cynigion mewn ffordd sy'n cynnal perthnasoedd da gyda'r bobl ynghlwm
- egluro a datrys unrhyw ansicrwydd ac anghytundeb ynghylch y cynigion
- cwblhau trafodaethau o fewn amserlenni cytunedig
- rhoi gwybodaeth gywir i randdeiliaid perthnasol am benderfyniadau, a hynny mewn modd ac ar amser sy'n debygol o sicrhau eu cydweithrediad a'u hyder
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl o ran gwella gofal
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- yr adnoddau ffisegol y mae eu hangen i gyflawni gweithgareddau yn effeithiol
- sut i gynnal dadansoddiadau cost a budd o ran gwariant arfaethedig
- sut i nodi a gwerthuso opsiynau yn lle cynigion ynghylch gwariant
- sut i ddatblygu a dadlau achos effeithiol dros wariant
- y tueddiadau a'r datblygiadau a all ddylanwadu ar wariant yn y dyfodol a sut i'w rhagweld
- y gweithdrefnau y mae angen eu dilyn er mwyn gwneud argymhellion ynghylch gwariant
- pwysigrwydd rheolaeth gyllidebol effeithiol i effeithlonrwydd y tîm a'r sefydliad, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau yn gysylltiedig â hyn
- yr egwyddorion a'r dulliau sydd wrth wraidd rheolaeth gyllidebol effeithiol
- pwysigrwydd cadw cofnodion cywir o wariant yn y gorffennol
- y wybodaeth y mae ei hangen i wneud penderfyniadau am wariant a sut i gasglu a gwirio dilysrwydd y wybodaeth hon
- sut i benderfynu ar dargedau, safonau a dulliau monitro
- y tueddiadau a'r datblygiadau a allai ddylanwadu ar wariant yn y dyfodol
- sut i gasglu a dilysu gwybodaeth y mae ei hangen i werthuso achos dros wariant
- amcanion a strategaethau'r sefydliad sy'n berthnasol i'r rhaglenni gwaith
- pwysigrwydd cael cytundeb ar gyfer cyllidebau
- sut i gynnal trafodaethau cyllideb
- meysydd ansicrwydd ac anghytundeb a allai ddigwydd wrth gytuno ar gyllidebau a sut i'w datrys mewn ffordd sy'n foddhaol i'r bobl hynny sy'n ymwneud â'r broses benderfynu
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN65
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Argymhellion, adnoddau, ffisegol