Coladu a chyfleu gwybodaeth iechyd i unigolion

URN: SFHGEN62
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â choladu a chyfleu gwybodaeth iechyd i unigolion, eu teulu neu i bobl eraill arwyddocaol i ymateb i ymholiadau neu fel rhan o hybu iechyd neu roi cyngor.  Mae enghreifftiau'n cynnwys rhoi gwybodaeth am lwyddiant dywededig triniaeth benodol; newyddion arwyddocaol; rhoi cyngor yn dilyn diagnosis neu ymyrraeth glinigol, a chadw cofnodion cysylltiedig.  Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.  Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau iechyd a rolau mewn gofal mewn argyfwng, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  5. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  6. ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  7. nodi'r wybodaeth iechyd y mae ei hangen a defnyddio ffynonellau diogel perthnasol i gael ati
  8. defnyddio ffynonellau diogel perthnasol i gael at y wybodaeth iechyd ofynnol
  9. sicrhau bod gwybodaeth iechyd:

    • wedi'i seilio ar dystiolaeth
    • yn gywir ac yn ddibynadwy
    • yn amserol
    • yn gyfredol
    • yn berthnasol i'r gofynion penodedig 
  10. cyflwyno'r wybodaeth iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn fformat sy'n gyson â lefel dealltwriaeth yr unigolyn, ei ddiwylliant, ei gefndir a'r ffyrdd sy'n well ganddo gyfathrebu

  11. cymryd camau i gael eglurhad o faterion mewn modd sy'n gyson â lefel dealltwriaeth, diwylliant a chefndir yr unigolyn
  12. cadarnhau bod anghenion gwybodaeth y derbynnydd wedi'u bodloni
  13. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN62

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Coladu, cyfathrebu, iechyd, gwybodaeth