Rheoli amgylcheddau ac adnoddau i’w defnyddio yn ystod gweithgareddau gofal iechyd

URN: SFHGEN6
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli amgylcheddau clinigol ar gyfer gweithgareddau gofal iechyd.  Mae hyn yn cynnwys paratoi ar gyfer ymyrraeth, triniaeth neu therapi gofal iechyd unigolyn, a sicrhau bod yr amgylchedd clinigol wedi'i lanhau a'i glirio'n briodol, a'i fod yn barod at ei ddefnydd bwriadedig nesaf.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau iechyd a rolau mewn gofal mewn argyfwng, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol 3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys 4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle 5. sicrhau eich bod yn atal ac yn rheol heintiau yn effeithiol bob amser 6. sicrhau bod yr holl adnoddau hanfodol ar gael cyn gweithgareddau gofal iechyd sydd wedi'u cynllunio, a rhoi gwybod am unrhyw brinderau 7. gwirio a chadarnhau bod cyflwr yr holl adnoddau yn addas ac yn ddiogel i'r gweithgaredd gael ei gyflawni 8. gwirio bod cyfarpar a dyfeisiau meddygol perthnasol yn gweithredu o fewn paramedrau gofynnol cyn eu defnyddio 9. trafod adnoddau yn ddiogel, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 10. paratoi adnoddau yn y modd a'r amser priodol er mwyn cyflawni'r gweithgaredd yn unol ag unrhyw ofynion y sefydliad   11. gwneud yn siŵr bod yr amodau amgylcheddol o fewn yr amgylchedd uniongyrchol wedi'u gosod ar lefelau priodol i gynnal cysur unigol trwy gydol y gweithgaredd 12. glanhau eitemau ailddefnyddadwy ar ôl eu defnyddio a'u gwneud yn ddiogel cyn eu storio yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 13. dychwelyd adnoddau heb eu hagor na'u defnyddio, ac adnoddau dros ben, i'r lleoliad cywir i'w storio 14. monitro faint o ddefnyddiau traul a ddefnyddir mewn gweithgareddau clinigol sydd ar gael, a'u hailgyflenwi a'u hamnewid yn unol â phrotocolau 15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd 5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill 8. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad 9. pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon safonol wrth baratoi amgylcheddau a chanlyniadau posibl ymarfer gwael 10. beth sy'n faes di-haint ai peidio, a sut gellir cyflawni'r lefel glendid gywir ar gyfer y gweithgaredd gofal iechyd, yr unigolyn a'r lleoliad 11. diben cyfarpar, dyfeisiau ac adnoddau meddygol cysylltiedig perthnasol, a'r defnydd ohonynt 12. sut i wirio a yw cyfarpar, dyfeisiau ac adnoddau meddygol yn addas at eu diben 13. pwysigrwydd dewis, paratoi a gosod adnoddau hanfodol yn ddiogel, yn effeithlon ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 14. y mathau o adnoddau hanfodol sy'n sensitif i newidiadau amgylcheddol a sut mae hyn yn effeithio ar eu storio a'r defnydd ohonynt 15. yr amodau amgylcheddol sy'n briodol ar gyfer y math o weithgarwch gofal iechyd sydd i'w gyflawni a sut i wneud addasiadau priodol i fodloni gofynion 16. y gweithdrefnau a'r technegau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynnal a chadw a glanhau'r amgylchedd a'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer gweithgarwch gofal iechyd penodedig 17. pwysigrwydd sicrhau bod amgylcheddau clinigol yn ddi-haint ac yn addas at eu defnydd nesaf 18. ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar barodrwydd amgylcheddau clinigol i'w defnyddio mewn gweithgareddau gofal iechyd 19. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Rheoli, amgylchedd, adnoddau, gofal iechyd