Casglu gwaed / cynhyrchion gwaed o storfa ar gyfer trallwysiad

URN: SFHGEN57
Sectorau Busnes (Cyfresi): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu gwaed a chynhyrchion gwaed o fanc gwaed ysbyty neu oergell loeren i unigolyn y mae arno angen trallwysiad gwaed neu gynhyrchion gwaed.

Mae hyn yn cynnwys dewis y gwaed a/neu'r cynnyrch gwaed cywir i'w drallwyso, llenwi a deall y gofynion ar y slip casglu gwaed (neu ddogfennau lleol cyfatebol), a gwirio bod y gwaed wedi'i labelu'n gywir. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un y mae'n rhaid iddo gasglu a danfon gwaed / cynhyrchion gwaed i gefnogi trallwysiadau gwaed diogel trwy sicrhau bod y gwaed neu'r cynnyrch gwaed cywir ar gael i'r unigolyn cywir.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. casglu'r ddogfennaeth casglu gwaed sy'n berthnasol i'r unigolyn
  6. dod o hyd i'r uned o waed / cynhyrchion gwaed yn yr oergell a'u tynnu oddi yno, gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
  7. cadarnhau bod yr uned gywir o waed / y cynnyrch gwaed cywir â'r set ddata leiaf ar y ddogfennaeth wedi'i ddewis, gan gymryd camau priodol yn gysylltiedig ag unrhyw anghysondebau
  8. mynd â'r gwaed / cynnyrch gwaed i'r aelod staff perthnasol ar unwaith, gan sicrhau eich bod yn cadw llygad ar y gwaed / cynnyrch gwaed ym mhob cam o'r broses
  9. gwirio, gyda'r aelod staff perthnasol, bod y manylion ar y gwaed / cynnyrch gwaed a ddanfonoch yn cyfateb i'r manylion ar y ddogfennaeth sy'n berthnasol i'r unigolyn
  10. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  9. y digwyddiadau niweidiol neu'r digwyddiadau sy'n ymwneud â diogelwch a all godi wrth gasglu gwaed / cynhyrchion gwaed o'r oergell
  10. y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis y cynnyrch gwaed priodol o'r oergell
  11. sut i gludo gwaed / cynhyrchion gwaed o'r oergell yn ddiogel yn ôl i'r ward a/neu i ardaloedd clinigol eraill
  12. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi ar y slip casglu gwaed neu ar ddogfennau perthnasol eraill yr ewch â nhw i'r oergell pan fydd gwaed yn cael ei gasglu
  13. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN57

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Casglu, cynhyrchion, gwaed, storfa, trallwysiad