Cefnogi unigolion sy’n mynd trwy weithgareddau gofal iechyd
URN: SFHGEN5
Sectorau Busnes (Cyfresi): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi unigolion yn ystod ac yn dilyn gweithgaredd gofal iechyd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau iechyd a rolau mewn gofal mewn argyfwng, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Gall gynnwys unigolion sy'n ymwybodol neu sy'n anymwybodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- nodi natur y cymorth y mae ar yr unigolyn ei angen a pharchu ei breifatrwydd, ei urddas, ei ddymuniadau a'i gredoau wrth weithio gyda'r unigolyn
- sicrhau bod yr unigolyn wedi'i osod yn gywir ar gyfer y weithdrefn a, lle y bo'n briodol, cynorthwyo'r unigolyn i symud i'r safle gofynnol
- cynorthwyo a monitro'r unigolyn yn ystod ac yn dilyn y gweithgaredd, ac ymateb i'w anghenion yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch angenrheidiol eraill yn ystod ac yn dilyn y gweithgaredd
- sicrhau bod y cyfleusterau a'r cymorth priodol yn cael eu rhoi i'r unigolyn ar gyfer y cyfnod adfer yn dilyn y gweithgaredd
- rhoi gwybod i unigolion a phobl berthnasol eraill am y camau nesaf a, lle y bo'n briodol, unrhyw drefniadau ar gyfer cludiant a hebryngwyr pan fo angen y gwasanaethau hyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- y mathau a'r lefelau cymorth a help y gall fod ar unigolion eu hangen yn ystod ac yn dilyn y gweithgaredd, a rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
- gosod yr unigolyn yn ei le yn gywir ar gyfer y gweithgaredd, a phwysigrwydd sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal
- pwysigrwydd rhoi gwybod i'r unigolyn am yr hyn rydych chi'n ei wneud, natur y gweithgaredd dan sylw a phryd i gyfeirio ymholiadau at weithwyr iechyd proffesiynol eraill
- dulliau a thechnegau ar gyfer tawelu meddwl unigolion sydd dan straen neu'n bryderus
- pwysigrwydd cynnig cymorth a sicrwydd llafar a dieiriau i'r unigolyn
- y pryderon a gofidiau allai fod gan unigolion o ran rhai gweithgareddau a ffyrdd priodol o ymateb i'r pryderon hyn
- yr amrywiaeth o gyfarpar a dyfeisiau meddygol cysylltiedig, eu diben a'r defnydd cywir ohonynt o fewn eich amgylchedd gwaith
- mesurau diogelu/rhagofalus penodol sy'n briodol i'r weithdrefn a gyflawnir, sut y dylent gael eu cymhwyso, a goblygiadau a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- anatomi a ffisioleg berthnasol sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd a gyflawnir
- arwyddion a symptomau adweithiau niweidiol neu gwrtharwyddion i'r gweithgaredd a gyflawnir
- pwysigrwydd monitro lles yr unigolyn yn ystod ac yn dilyn y gweithgaredd
- pwysigrwydd cyfarwyddiadau ar ôl y weithdrefn a'r rhesymau drostynt, a'r goblygiadau os na fydd yr unigolyn yn deall y rhain neu os na roddir y cyfarwyddiadau
- problemau a allai ddigwydd yn ystod ac yn dilyn y gweithgareddau, a'r camau priodol i'w cymryd mewn ymateb
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN5
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cymorth, unigolyn, gofal iechyd