Paratoi unigolion ar gyfer gweithgareddau gofal iechyd
URN: SFHGEN4
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi unigolyn ar gyfer gweithgaredd gofal iechyd yn unol â gofynion y gweithgaredd i'w gyflawni, yr ymarferwr ac anghenion yr unigolyn wedi'u hasesu.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau iechyd a rolau mewn gofal mewn argyfwng, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Gall gynnwys unigolion sy'n ymwybodol neu sy'n anymwybodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- sicrhau eich bod yn cael unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i'r gweithgaredd oddi wrth yr unigolyn, gofalwyr neu bersonél perthnasol eraill, a'i bod yn cael ei chofnodi yn unol â gofynion y sefydliad
- gwirio bod yr unigolyn wedi cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau cyn y weithdrefn
- paratoi'r unigolyn yn ôl gofynion y gweithgaredd sydd i'w gyflawni, gan sicrhau eich bod yn rheoli heintiau yn effeithiol bob amser yn unol â gofynion y sefydliad
- storio eitemau personol y mae angen i unigolion eu tynnu ymaith ar gyfer y gweithgaredd yn ddiogel, yn y man priodol
- gosod a chefnogi unigolion a, lle y bo'n briodol, unrhyw gyfarpar neu ddyfeisiau meddygol, i wneud y mwyaf o'r broses baratoi a'r deilliannau
- tawelu meddwl a chefnogi'r unigolyn a gofalwyr perthnasol trwy gydol y broses, gan sicrhau parch i hawliau, urddas a phreifatrwydd yr unigolyn bob amser
- rhoi gwybod i staff clinigol perthnasol neu bersonél eraill am faterion perthnasol
- cymryd camau priodol, ar unwaith, i ymateb i unrhyw argyfwng sy'n codi
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn cyn dechrau paratoi
- pwysigrwydd gwirio pob gwybodaeth a dogfen berthnasol cyn dechrau paratoi'r unigolyn, a'r mathau o wybodaeth sydd wedi'u cynnwys mewn dogfennau perthnasol
- pwysigrwydd gwirio bod yr unigolyn wedi cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd cyn y driniaeth a'r goblygiadau posibl os na ddilynir y cyfarwyddiadau
- y gweithdrefnau a'r protocolau sy'n gysylltiedig â pharatoi unigolion ar gyfer y gweithgareddau gofal iechyd perthnasol
- gwrtharwyddion gweithdrefnau penodol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â pharatoi unigolion yn anghywir ar gyfer gweithgareddau gofal iechyd
- y mathau o gymorth a help y gall fod ar unigolion eu hangen i baratoi ar gyfer y gweithgaredd sydd i'w gyflawni
- anatomi a ffisioleg berthnasol yn gysylltiedig â'r gweithgaredd a gyflawnir
- gosod yr unigolyn yn ei le yn gywir a'r adnoddau hanfodol ar gyfer y gweithgaredd sydd i'w gyflawni, a phwysigrwydd sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni
- technegau trafod diogel ar gyfer yr adnoddau a ddefnyddiwyd i baratoi'r unigolyn ar gyfer y gweithgaredd gofal iechyd
- y pryderon a'r gofidiau allai fod gan unigolion o ran rhai gweithgareddau a ffyrdd priodol o ymateb i'r pryderon hyn
- sut i reoli preifatrwydd ac urddas unigolion sy'n ymwybodol ac yn anymwybodol
- y ffyrdd y gall fod yn rhaid cyfyngu ar hawliau a dewisiadau'r unigolyn oherwydd natur y paratoadau sy'n ofynnol ar gyfer rhai gweithgareddau
- pwysigrwydd cynnig cymorth a sicrwydd llafar a dieiriau i'r unigolyn, a dulliau o wneud hynny
- pwysigrwydd rhoi gwybod i'r unigolyn am yr hyn rydych chi'n ei wneud a natur y gweithgaredd sydd ar fin digwydd
- sut i adnabod argyfyngau sy'n berthnasol i faes eich ymarfer
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN4
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Paratoi, unigolion, gofal iechyd