Cyfrannu at weithio’n effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol
URN: SFHGEN39
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal gwaith hwylus a chyson y tîm amlddisgyblaethol er mwyn cyflawni nod y gofal gorau i unigolion. Caiff hyn ei gyflawni trwy feithrin hinsawdd lle y mae aelodau’n cyfnewid gwybodaeth a barn yn agored ymhlith ei gilydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- sicrhau bod eich arferion gwaith yn cydymffurfio â phenderfyniadau a wneir gan y tîm
- cyfathrebu'n effeithiol ag aelodau eraill y tîm a chydnabod eu barn yn adeiladol
- darparu gwybodaeth glir, gywir a digonol am waith sy'n mynd rhagddo i alluogi aelod arall o'r tîm i gyflawni'i waith yn gywir
- rhoi help a chyngor i gydweithwyr pan fyddant yn gofyn am hynny a phan fydd hyn yn gyson â'ch cyfrifoldebau eraill
- sicrhau yr eir i'r afael yn gadarnhaol ag unrhyw broblemau yn y tîm, ac yr ymdrinnir â nhw yn adeiladol
- cynnal cyfrinachedd gwybodaeth yn gysylltiedig ag aelodau eraill y tîm
- nodi enghreifftiau o arfer ac awgrymu gwelliannau
- nodi eich anghenion datblygu eich hun o gymharu â galwadau'r rôl a galwadau/gofynion y tîm
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu'r timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn gwasanaethau ac ar draws gwasanaethau
- y cyfraniad y gall gwahanol broffesiynau ei wneud at werthuso a chynllunio gofal unigol
- anghenion gwybodaeth pobl eraill yn y tîm
- strwythurau cyfathrebu yn y sefydliad
- sut i ofyn cwestiynau penagored, gwrando'n astud a rhoi crynodeb yn ôl
- sut i wneud penderfyniadau ar sail safbwyntiau lluosog tîm
- sut mae timau effeithiol yn gweithio
- egwyddorion ac ymarfer dynameg grŵp
- y gwahanol nodweddion y mae'n rhaid i wasanaethau eu cael er mwyn bodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN39
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Amlddisgyblaethol, tîm, gweithio