Delio â thrafodion ariannol o fewn cyfleuster iechyd
URN: SFHGEN26
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio â thrafodion ariannol yn eich maes gwaith. Mae hyn yn cynnwys derbyn taliadau i mewn, codi arian a delio â chynlluniau talu. Bydd disgwyl i chi gadw cofnodi cywir o'r arian rydych chi'n gyfrifol amdano.
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw weithiwr y mae angen iddo ddelio â thrafodion ariannol fel arian parod, cyfrifon yr unigolyn, siopau gwirfoddol a siopau elusen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- gwneud yn siŵr bod pob trafodyn yn cael ei gofnodi a'i dderbynebu'n gywir gan ddefnyddio dulliau priodol o gadw cyfrifon ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- mantoli cofnodion mewn cyfrifon yn rheolaidd
- nodi a delio'n briodol ag anghysondebau mewn trafodion
- storio a bancio arian yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- rheoli methu â thalu arian, yn unol â chyfarwyddiadau'r sefydliad
- cymryd y camau priodol yn ddi-oed pan fydd posibilrwydd o ddwyn neu dwyll
- cwblhau trafodion yn brydlon i sicrhau llif arian digonol
cyn codi arian, sicrhau:
- bod yr arian ar gael
- bod hynny o fewn ffiniau eich cyfrifoldebau
sicrhau bod pob trafodyn yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gadarnhau arian cyfred, cyfyngiadau a dilysrwydd arian
- ble a sut i gofnodi manylion taliadau a pham mae angen darparu derbynebau llawn
- natur codi arian a thaliadau mewn dogfennau a sut i'w cwblhau'n gywir
- y gweithdrefnau mae'r sefydliad yn eu defnyddio ar gyfer diffyg talu a'ch rôl wrth weithredu'r rhain
- y manylion y mae angen eu cofnodi a'u gwirio pan fydd arian yn newid dwylo
- polisi'r sefydliad ar fancio, gan gynnwys trefniadau a gweithdrefnau diogelwch ar gyfer arian a chludo arian
- sut i ddidoli taliadau arian parod mewn bagiau
- sut i gyfrifo gofynion arian parod
- canlyniadau posibl methu â gwirio taliadau a chodi arian
- y camau y dylid eu cymryd yn achos dwyn neu dwyll posibl, neu achosion gwirioneddol o ddwyn neu dwyll
- mesurau diogelwch ar gyfer storio arian
- polisïau'r sefydliad yn gysylltiedig â thrafodion ariannol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN26
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Delio, ariannol, trafodion, iechyd, cyfleuster