Gweinyddu apwyntiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweinyddu apwyntiadau. Bydd angen i chi allu derbyn a chofnodi gwybodaeth ar gyfer apwyntiadau. Ar sail y wybodaeth hon, bydd angen i chi wedyn drefnu apwyntiadau a chyfleu apwyntiadau i bobl eraill.
Hefyd, mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn unigolion ar gyfer apwyntiadau. Bydd angen i chi gyfathrebu ag unigolion yn effeithiol a gwirio'u manylion. Oherwydd yr agweddau sensitif sydd ynghlwm, bydd angen i chi gynnal eu hurddas a'u cyfrinachedd. Hefyd, bydd angen i chi gofnodi canlyniad apwyntiadau. Gall y canlyniad fod fel a ganlyn, er enghraifft: apwyntiad dilynol, rhyddhau, ychwanegu unigolyn at restr aros, neu dderbyn i ysbyty.
Ar gyfer y safon hon, bydd angen ymwybyddiaeth dda arnoch o weinyddu cofnodion a phwysigrwydd ansawdd data. Hefyd, bydd angen i chi gadw at brotocolau a gweithdrefnau'r sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cael y wybodaeth ofynnol ar gyfer apwyntiadau
- gwirio'r apwyntiadau yn erbyn y copi meistr a chymryd y camau priodol lle ceir gwahaniaethau
- cofnodi'r wybodaeth atgyfeirio angenrheidiol
- trosglwyddo'r atgyfeiriad i bobl eraill berthnasol i'w flaenoriaethu o fewn yr amserlen ofynnol
- neilltuo apwyntiadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- trefnu apwyntiadau neu roi'r unigolyn ar y rhestr briodol
- cyfleu statws apwyntiadau i unigolion ac i bobl allweddol
- monitro p'un a oes apwyntiadau ar gael a sicrhau'r defnydd effeithiol o apwyntiadau i fodloni gofynion y sefydliad
- ad-drefnu neu ail-neilltuo apwyntiadau a chyfleu gwybodaeth newydd i'r unigolyn ac i bobl eraill berthnasol
- sicrhau bod yr holl gofnodion perthnasol ar gael ar gyfer yr apwyntiad
- cymryd y camau priodol os bydd cofnodion ar goll
- cofnodi bod yr unigolyn wedi cyrraedd a throsglwyddo'r cofnodion i'r person perthnasol
- cysoni apwyntiadau trwy gydbwyso presenoldeb yn ôl apwyntiadau a drefnwyd
- prosesu cofnodion yn gywir yn unol â chanlyniad yr apwyntiad
- cynnal cyfrinachedd gwybodaeth bob amser
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd a'r rhesymau dros hynny
- pwysigrwydd dilysu a chofnodi data amserol, cywir a pherthnasol, a'r rhesymau dros hynny
- polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer trefnu amser a neilltuo apwyntiadau
- sut i reoli cofnodion dyblyg
- swyddogaeth y set ddata sylfaenol a'r defnydd ohoni
- pwysigrwydd cynnal urddas yr unigolyn a'i drin gyda pharch
- sut i gyfathrebu'n effeithio ag unigolion a phobl eraill
- sut i ddelio â sefyllfaoedd anodd a all godi
- gweithdrefnau cofnodion ar gyfer unigolion ag apwyntiadau
- y camau i'w cymryd os bydd cofnodion ar goll
- deilliannau gweinyddol apwyntiadau
- sut i gysoni rhestri apwyntiadau
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel