Monitro eich arferion gwaith eich hun

URN: SFHGEN23
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal adolygiad o'ch arfer eich hun.  Mae'n cynnwys monitro a gwerthuso ansawdd eich gweithgareddau gwaith a'r deilliannau, a chymryd camau priodol i gefnogi gwelliant parhaus.  Gall fod angen monitro ac archwilio at ddibenion lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Mae angen i chi ddangos eich bod yn gallu cymhwyso gweithdrefnau a safonau ansawdd perthnasol i'ch arferion gwaith a nodi unrhyw wyriadau rhag y rhain.  Mae angen i chi ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth i gefnogi'ch gweithgarwch monitro, gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr.  Byddwch yn rhoi gwybod am enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio â safonau ansawdd ac yn nodi a defnyddio cyfleoedd i wella ansawdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. neilltuo gweithgareddau monitro o fewn eich gwaith yn rheolaidd, yn unol â gofynion cyfreithiol, proffesiynol a gofynion y sefydliad
  4. addasu amlder y monitro lle bo angen i sicrhau cydymffurfiaeth â systemau ansawdd, a phryd bynnag y caiff risgiau eu hamlygu
  5. monitro'ch gweithgareddau gwaith a'r deilliannau yn ôl y safonau a'r dangosyddion ansawdd perthnasol
  6. cael at wybodaeth o ffynonellau priodol fel y bo'n berthnasol i'r gweithgarwch monitro
  7. cael y data cywir a chyflawn sy'n berthnasol i'r gweithgarwch monitro
  8. nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio â gweithgareddau gwaith a deilliannau, ac amrywiad arnynt, yn ôl dangosyddion ansawdd perthnasol
  9. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol, yn gywir ac yn brydlon, am enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio â safonau ansawdd, neu amrywiad arnynt
  10. defnyddio canlyniadau'r monitro i wella'ch arferion gwaith a'r deilliannau
  11. cael at gymorth priodol i wella'ch ymarfer, lle bo angen
  12. gweithredu ar sail unrhyw argymhellion er mwyn gwella perfformiad a deilliannau ansawdd
  13. adolygu unrhyw newidiadau i arferion gwaith fel y bo'r gofyn, i gadarnhau a chynnal gwelliannau
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. y diben, y dull a'r gofynion ar gyfer monitro'r gweithgareddau gwaith a'r deilliannau, o fewn cwmpas eich ymarfer
  4. ystod y gweithdrefnau a'r safonau ansawdd ar gyfer eich maes gwaith a pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer monitro ansawdd
  5. ystod y systemau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol sy'n berthnasol i'ch maes gwaith a'r disgwyliadau ynghylch eich cyfraniadau atynt
  6. ffactorau a all ddylanwadu ar ansawdd eich gweithgareddau gwaith a'r deilliannau, a sut i'w hadnabod
  7. sut y gall gwyro o weithdrefnau gweithio cytunedig ddylanwadu ar natur, ansawdd neu ddibynadwyedd y deilliannau sy'n cael eu cyflawni
  8. ffynonellau gwybodaeth am sut i helpu monitro a gwerthuso'ch gweithgareddau gwaith a'r deilliannau, a sut i gael at y rhain
  9. ystod y data sy'n berthnasol i'r gweithgarwch monitro sydd i'w wneud
  10. sut i nodi a gwerthuso amrywiadau mewn arferion gwaith a deilliannau
  11. camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd ac amserlenni ar gyfer gwneud hyn mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio â safonau ansawdd neu amrywiad arnynt
  12. sut i gael at gyngor a chymorth i wella ansawdd
  13. am ba hyd y mae'n rhaid cadw cofnodion monitro ansawdd a'r gweithdrefnau ar gyfer cael gwared ar gofnodion monitro
  14. pwysigrwydd myfyrio ar eich ymarfer a sut gall y myfyrdod hwnnw helpu i wella'ch ymarfer.
  15. y polisïau a'r arweiniad sy'n egluro cwmpas eich ymarfer, systemau ansawdd, yr hyn rydych chi'n atebol amdano a'r berthynas waith rhyngoch chi ac eraill
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN23

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Monitro, arferion, ymarfer, gwaith, eich hun