Galluogi gofalwyr i gefnogi unigolion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch rôl wrth gynorthwyo â darparu cyfarpar a chymorth i unigolion a gofalwyr yn y gymuned. Mae'r gair 'cyfarpar' yn cael ei ddefnyddio i olygu unrhyw adnodd perthnasol sy'n cael ei ddarparu. Gall cymorth fod yn seicolegol yn ogystal ag yn gorfforol, a gall gael ei roi ar y cyd â darparu cyfarpar neu ar ei ben ei hun. Mae'r term 'cymuned' yn cael ei ddefnyddio i olygu unrhyw amgylchedd sy'n berthnasol i'r unigolyn (h.y. mae'n cynnwys cartref yr unigolyn ei hun a chyffiniau'r cartref, cartref cymunedol lle y mae'r unigolyn yn byw, canolfan ddydd neu weithle'r unigolyn).
Gall y ddarpariaeth fod o ganlyniad i atgyfeiriad gan aelod arall o'r tîm gofal, oherwydd bod yr unigolyn wedi symud i'r gymuned ar ôl bod yn yr ysbyty/mewn llety preswyl, neu oherwydd bod yr unigolyn neu'r gofalwr wedi cysylltu â'r gwasanaeth yn uniongyrchol. Defnyddir y term 'gofalwr' ar gyfer rhywun sy'n gofalu am yr unigolyn mewn rhyw ffordd, ond nad yw'n aelod o'r tîm gofal ffurfiol ac, felly, nid oes ganddo unrhyw gysylltiadau ffurfiol/sefydlog â'r gwasanaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- cyfathrebu â'r unigolyn a gofalwyr yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- rhoi cymorth i'r unigolyn ac i ofalwyr, a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- rhoi gwybod i ofalwyr am anghenion a chynllun gofal a chymorth yr unigolyn, a dull gweithredu'r cynllun fel y cytunwyd ar hynny gyda'r unigolyn a'r tîm gofal
- rhoi amser a chyfle i ofalwyr drafod cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, ac unrhyw bryderon am yr unigolyn
- trafod a chytuno ar lefel y cymorth a'r math o gymorth y mae ar y gofalwr eu hangen, gyda'r gofalwr
- gwneud trefniadau i ddarparu unrhyw gyfarpar cytunedig ac addasiadau amgylcheddol y mae eu hangen i'r gofalwr gefnogi'r unigolyn
- cynnig cymorth i ofalwyr sy'n gyson â'u hanghenion nhw ac anghenion yr unigolyn
- rhoi gwybod yn llawn ac yn ddi-oed i'r aelod priodol o'r tîm gofal am unrhyw bryderon ynghylch gallu gofalwyr, neu addasrwydd yr amgylchedd, i fodloni anghenion yr unigolyn fel y'u hamlinellir yn y cynllun gofal a chymorth
- darparu gwybodaeth i ofalwyr am sut a phryd i gysylltu â'r tîm gofal
- rhoi cymorth i ofalwyr yn ystod y pontio o un gwasanaeth i wasanaeth arall
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i bobl eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn a'r gofalwr
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- y gweithdrefnau a'r dulliau yn gysylltiedig â chydlynu'r timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn gwasanaethau ac ar draws gwasanaethau
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- pwysigrwydd cael cytundeb yr unigolyn a'r tîm gofal i roi gwybodaeth i bobl eraill a pham dylid enwi'r bobl fydd yn ei chael, a chytuno ar hynny
- pwysigrwydd cynnig cymorth sy'n gyson ag angen
- pwysigrwydd sefydlu'r cymorth y mae ar ofalwyr ei angen gyda nhw a'u hannog i chwarae rhan mor weithgar â phosibl
- pwrpas rhoi cymorth i ofalwyr a ffyrdd effeithiol o wneud hyn
- pwrpas a chynnwys y cynllun gofal a chymorth
- pwrpas rhoi cymorth pan fydd yr unigolyn yn newid o un darparwr gwasanaeth i ddarparwr arall
- y problemau sy'n cael eu hachosi gan gamweithredu
- patrymau anhrefn a allai effeithio ar ffordd yr unigolyn o fyw
- gallu'r gofalwr i reoli ei rôl ofalu
- y galwadau y mae rôl y gofalwr yn eu gosod ar unigolyn a'r tensiwn rhwng hyn ac ymrwymiadau eraill posibl allai fod gan yr unigolyn
- arwyddion a fyddai'n awgrymu problemau neu broblemau posibl ynghylch gallu gofalwyr, neu addasrwydd yr amgylchedd; pam y dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn ddi-oed, ac i bwy
- y pryderon y mae unigolyn yn debygol o'u cael yn gysylltiedig ag amodau a chymorth
- yr effeithiau y gall dibyniaeth/annibyniaeth eu cael ar yr unigolyn, ar ofalwyr ac ar ddarparu'r gwasanaeth
- strategaethau dysgu ac addysgu a'u haddasiadau i wahanol ofalwyr
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel