Paratoi a gwisgo ar gyfer gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd
URN: SFHGEN2
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
|
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- tynnu dillad personol ac eitemau ffasiwn na ddylid eu gwisgo yn y gweithle a'u storio nhw mewn man diogel, priodol
- gwirio bod yr holl PPE yn lân a'i fod mewn cyflwr da ac yn ffitio'n gyfforddus
- dewis a gwisgo'r PPE cywir i'ch rôl ac i'r weithdrefn rydych chi'n ei chyflawni, yn unol â pholisi'r sefydliad
- lle bo'r gofyn, gorchuddio unrhyw friwiau neu doriadau i'r croen yn ddiogel, gyda gorchudd priodol
- cynnal golwg lân, ddestlus a thaclus bob amser
- newid eich PPE cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl os bydd yn anaddas i'w ddefnyddio
- tynnu'ch PPE yn ddiogel, mewn ffordd sy'n lleihau risg croes-heintio a'i roi mewn man diogel i'w ailbrosesu neu ei waredu
- rhoi gwybod i'r person priodol ar unwaith am unrhyw brinder stoc PPE
- atal halogi PPE trwy ei wisgo yn yr ardal waith ddynodedig yn unig, gan newid i ddillad personol pan fyddwch chi'n gorffen gwaith
- gwisgo PPE ychwanegol pan fydd risg ychwanegol wedi'i nodi, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- golchi a sychu'ch dwylo yn effeithiol, neu ddefnyddio hylif dihalogi priodol y croen, sy'n cynnwys alcohol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- pwysigrwydd cynnal safonau hylendid personol uchel bob amser
- y dillad personol (awyr agored) a'r eitemau ffasiwn personol eraill y dylid eu diosg ar gyfer gwaith mewn amgylchedd clinigol/rheoledig, a'r rhesymau dros hyn
- achosion haint a chroes-heintio
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer rheoli heintiau a materion iechyd a diogelwch perthnasol eraill
- polisi'r sefydliad ar ddefnyddio colur neu wisgo gemwaith a gorchuddio gwallt yr wyneb neu'r pen, lle bo angen hynny
dillad amddiffynnol ac:
- y rhesymau pam mae deunyddiau penodol yn cael eu defnyddio ar gyfer dillad sy'n gyfarpar diogelu personol (PPE)
- y mathau o ddillad amddiffynnol sydd ar gael, a'u haddasrwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd
- y rhesymau pam y mae'n rhaid i ddillad PPE fod yn lân a heb ei ddifrodi pan fydd yn cael ei wisgo
sut mae'r defnydd cywir o ddillad PPE yn cyfrannu at reoli heintiau a sut mae hyn yn cysylltu â rhagofalon safonol
- pwysigrwydd gwisgo dillad PPE sy'n gyfforddus
- y rhesymau pam na ddylai dillad PPE gael ei wisgo'r tu allan i'r ardal waith ddynodedig
- yr amgylchiadau pan fydd angen PPE ychwanegol
- y mathau o PPE ychwanegol sydd ar gael
- addasrwydd y gwahanol fathau o PPE ychwanegol ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol
- pwysigrwydd gwisgo PPE ychwanegol digonol a phriodol
- ble a sut i waredu dillad sydd wedi'i ddefnyddio, sy'n fudr ac sydd wedi'i difrodi (dillad defnydd untro ac amldro)
- pwysigrwydd golchi dwylo'n effeithiol
- pwysigrwydd golchi a chynnal iwnifform/dillad gwaith gartref i atal croes-heintio
- dulliau a thechnegau ar gyfer glanhau dwylo ac ardaloedd eraill o'r croen, a'r adeg pan fydd angen glanhau'r croen
- gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am broblemau â dillad PPE a PPE ychwanegol
- sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN2
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Paratoi, gwisgo, gwaith, PPE, gofal iechyd