Rhoi cyflwyniadau i grwpiau
URN: SFHGEN18
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cyflwyniadau i grwpiau. Gallai'r grwpiau fod yn gydweithwyr neu'n grwpiau cymorth, neu bobl eraill yn y gymuned y mae angen gwybodaeth arnynt am bwnc sy'n dod o fewn eich maes gwaith.
Mae'r gweithgareddau a allai fod yn berthnasol i'r safon hon yn cynnwys nodi anghenion ac arddulliau dysgu unigol; dewis technegau cyflwyno priodol; strwythuro cyflwyniadau; ac addasu cyflwyniadau i gyfrif am ddysgu seiliedig ar dechnoleg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- nodi a lleihau peryglon a risg yn y gweithle
- cyfrif am faint a gwahanol anghenion yr unigolion yn y grŵp wrth benderfynu sut i roi'r cyflwyniad
- cyflwyno gwybodaeth yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i anghenion unigolion a'r hyn sy'n well ganddynt
- adnabod ac ymateb i anghenion ac arddulliau dysgu unigol
- defnyddio cymhorthion gweledol, technolegau a deunyddiau i ategu'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno
- annog unigolion i ofyn cwestiynau a chael esboniadau ar adegau priodol yn ystod y cyflwyniad
- rhoi gwybodaeth glir a chywir i atgyfnerthu pwyntiau dysgu yn y cyflwyniad
- cymryd camau i leihau pethau sy'n tynnu sylw ac yn tarfu
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y mathau o ddysgu sy'n cael eu cyflawni a'u cefnogi orau trwy gyflwyniadau
- y rhannau gwahanol o gyflwyniadau sy'n annog dysgu
- sut i wneud i unigolion deimlo'n gartrefol a'u hannog i gymryd rhan
- sut i wirio dealltwriaeth unigolion a'u cynnydd
- sut i ddewis a pharatoi cymhorthion gweledol, technoleg a deunyddiau priodol
- sut i ddewis o blith amrywiaeth o dechnegau cyflwyno
- sut i roi gwybodaeth mewn trefn a phenderfynu p'un a yw'r iaith byddwch chi'n ei defnyddio yn briodol
- sut i addasu cyflwyniadau a gweithgareddau i ategu dysgu
- sut i nodi a defnyddio cyfleoedd dysgu gwahanol
- sut i strwythuro cyflwyniadau
- pa ffactorau sy'n debygol o atal dysgu a sut i'w goresgyn
- sut i nodi a gwerthuso newidiadau a datblygiadau mewn technoleg ac e-ddysgu
- sut i ddefnyddio mathau priodol o holi yn ystod cyflwyniadau
- sut i ddadansoddi a defnyddio datblygiadau mewn dysgu a ffyrdd newydd o drosglwyddo, gan gynnwys dysgu seiliedig ar dechnoleg
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHGEN18
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cyflwyniadau, grwpiau