Cynorthwyo unigolion i ymgymryd â gweithgareddau maent yn dymuno eu gwneud

URN: SFHGEN15
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth a chyngor i helpu unigolion i ailafael mewn gweithgareddau galwedigaethol, addysgol, domestig, hamdden neu adsefydlu, neu i amlygu gweithgareddau newydd a fydd yn cyfoethogi iechyd a lles yr unigolyn.  Mae’n cynnwys gweithio gyda’r unigolyn, ei deulu a/neu ei ofalwyr, i gytuno ar nodau realistig a gweithredu i gyflawni’r gweithgareddau a ddymunir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. cyfeirio at unrhyw asesiadau blaenorol o anghenion yr unigolyn
  10. siarad â'r unigolyn, aelodau'r teulu, gofalwyr a phobl eraill i sefydlu dealltwriaeth o'u gwerthoedd, eu credoau a'u diddordebau
  11. gwrando'n astud ar yr unigolyn ac ymateb i'w anghenion unigol
  12. ymgyfarwyddo â galwadau corfforol, seicolegol a chymdeithasol y gweithgareddau mae'r unigolyn yn dymuno eu gwneud
  13. datblygu cynllun a chytuno ar amcanion yn unol â gallu'r unigolyn i ymgymryd â gweithgareddau mae'n dymuno eu gwneud
  14. annog a symbylu'r unigolyn i'w helpu i gyflawni amcanion realistig
  15. helpu'r unigolyn i adnabod strategaethau ymdopi, gan gynnwys strategaethau sydd wedi'i helpu yn y gorffennol
  16. cysylltu ag asiantaethau a gwasanaethau eraill i sicrhau bod gwybodaeth a gesglir i'r unigolyn yn gyfredol, yn gywir ac yn briodol
  17. trefnu gweithgareddau a nodi unrhyw adnoddau y bydd eu hangen er mwyn i'r unigolyn ymgymryd â'r gweithgareddau
  18. nodi unrhyw gymhorthion ac addasiadau y bydd eu hangen er mwyn i'r unigolyn ymgymryd â gweithgareddau mae'n dymuno eu gwneud
  19. darparu cysylltiadau defnyddiol i'r unigolyn ac atgyfeirio i asiantaethau eraill lle y bo'r angen
  20. adolygu effeithiolrwydd gweithredoedd ac addasu ymyriadau fel y bo'r angen, trwy drafod â'r unigolyn, y teulu a gofalwyr
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  9. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  10. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  11. sut i ofyn cwestiynau, gwrando'n astud ac adrodd yn ôl yn gryno
  12. sut i sefydlu dealltwriaeth o werthoedd, credoau a diddordebau unigolyn
  13. sut i sicrhau iechyd a diogelwch unigolion sy'n ymgymryd â gweithgareddau maent yn dymuno eu gwneud
  14. sut i osod nodau CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol)
  15. sut i nodi galwadau corfforol, seicolegol a chymdeithasol y gweithgareddau mae'r unigolyn yn dymuno eu gwneud  
  16. y cyfraniad y gall gweithgaredd ystyrlon ei wneud at ymdeimlad unigolyn o les
  17. sut i helpu unigolion i nodi strategaethau ymdopi
  18. yr amrywiaeth o gymhellion posibl sydd gan bobl i newid eu hymddygiad a'u ffordd o fyw, a sut i ddarganfod eu cymhellion
  19. sut i gael a dehongli asesiadau o anghenion yr unigolyn
  20. sut i nodi unrhyw adnoddau neu addasiadau y bydd eu hangen er mwyn i'r unigolyn ymgymryd â gweithgareddau o'i ddymuniad
  21. y gwasanaethau lleol sydd ar gael a'r goblygiadau o ran adnoddau
  22. sut i nodi ymarferion sydd ar gael i helpu unigolion i ddatblygu'r gallu i ymgymryd â'r gweithgareddau a ddymunant
  23. technegau cwnsela sylfaenol
  24. y model iechyd bioseicogymdeithasol
  25. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN15

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cymorth, unigolion, dymuniad