Darparu cyngor a gwybodaeth i unigolion ynghylch sut i reoli’u cyflwr eu hunain
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sefydlu gofynion unigolion am wybodaeth a darparu cyngor a gwybodaeth i’w galluogi i reoli’u cyflwr, a mabwysiadu ffordd addas o fyw i wneud y mwyaf o’u hiechyd a’u lles. Mae ‘unigolyn’ yn y safon hon yn cael ei ddefnyddio i olygu unrhyw un y dowch i gysylltiad â nhw, boed yn ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teulu neu berson arall arwyddocaol, cydweithwyr, neu weithwyr proffesiynol eraill. Mae angen i chi uniaethu â phob person fel rhywun sydd â’i anghenion penodol ei hun am wybodaeth a chyngor, a datblygu dealltwriaeth lawn o’i ofynion a’r ffordd orau o fodloni’r rhain. Mae’r safon hon yn dibynnu ar allu cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gennych ac ymateb i unrhyw ymholiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- creu amgylcheddau sy'n addas ar gyfer trafodaethau cyfrinachol
esbonio'n glir:
- pwy ydych chi a'ch rôl wrth ddarparu cyngor a gwybodaeth
- enw a natur y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli
- polisi eich sefydliad ar gyfrinachedd a chadw cofnodion
- dysgu am ffordd yr unigolyn o fyw ac asesu'n gyffredinol p'un a ellir addasu ffordd yr unigolyn o fyw, a sut, fel y gall yr unigolyn reoli'i gyflwr ei hun
galluogi unigolion i fynegi'u gofynion am gyngor a gwybodaeth
- dysgu beth yw lefel gwybodaeth yr unigolyn am ei gyflwr ac unrhyw gamsyniadau sydd ganddo
- llunio asesiad o ofynion yr unigolyn a chadarnhau hyn gyda'r unigolyn
- esbonio'r manteision y gallai addasu'i ffordd o fyw eu cael ar gyflwr yr unigolyn
- dangos parch tuag at bobl fel unigolion wrth ryngweithio â nhw a chydnabod eu hanghenion diwylliannol a chrefyddol, a'u hawliau i wneud eu penderfyniadau eu hunain yng nghyd-destun eu bywyd eu hunain
- cyfeirio'r unigolyn at ffynonellau cyngor a gwybodaeth ychwanegol neu wahanol fel y bo'n briodol i fodloni'i anghenion
- ymateb yn briodol i unrhyw bryderon allai fod gan yr unigolyn am addasu'i ffordd o fyw
- cytuno ar dargedau cyflawnadwy gyda'r unigolyn i wneud y mwyaf o'i iechyd a'i les
- helpu'r unigolyn i ddatblygu cynlluniau i addasu'i ffordd o fyw a chytuno ar gamau gweithredu, targedau ac unrhyw gymorth ychwanegol y mae arno'i angen
- cytuno ar ddyddiad i adolygu cynnydd a gofynion yr unigolyn
- cynnal cyfrinachedd gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion a rhannu gwybodaeth dim ond gyda'r bobl hynny sydd â hawl i'w gwybod ac y mae arnynt angen ei gwybod
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl o ran gwella gofal
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- natur yr amodau y mae eich sefydliad yn ymdrin â nhw, eu gwahanol ffurfiau a'u heffaith ar unigolion a'u teuluoedd
- eich gwerthoedd, eich credoau a'ch agweddau chi, a sut y gallent effeithio ar eich gwaith
- pam mae'r gallu i wrando'n effeithiol yn bwysig
- sut i adnabod y math o wybodaeth a chyngor y gall unigolion fod yn ceisio gofyn amdano pan nad oes ganddynt yr eirfa, yr hyder na'r sgil i roi disgrifiad cywir
- y wybodaeth y mae ar bobl ei hangen er mwyn gallu gwneud dewisiadau gwybodus o ran ffordd o fyw
- sut y gall addasu ffordd o fyw alluogi unigolyn i reoli'i gyflwr ei hun
- yr amrywiaeth o resymau posibl sydd gan bobl dros wrthsefyll newid a sut i nodi a goresgyn y rhesymau hyn
- yr effaith a gaiff ymrymuso unigolion i reoli'u cyflyrau eu hunain ar yr unigolyn, ei deulu/gofalwr ac ar wasanaethau iechyd
- sut i helpu pobl i ddatblygu cynlluniau realistig a chyflawnadwy i addasu'u ffyrdd o fyw
- pwysigrwydd monitro ac adolygu cynnydd tuag at addasu ffordd o fyw, a sut i wneud hynny'n effeithiol
- sut gallai credoau diwylliannol neu grefyddol unigolyn effeithio ar ei allu i addasu'i ffordd o fyw mewn ffyrdd penodol a sut i ymateb i hyn
- yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol i bobl y mae angen gwybodaeth a chymorth arnynt i wneud a chynnal newidiadau i'w ffordd o fyw, a sut i gael at y gwasanaethau hyn
- sut i greu amgylcheddau sy'n addas ar gyfer trafodaethau cyfrinachol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel