Datblygu ac adolygu rhaglen ofal integredig i unigolyn mewn gofal iechyd meddwl fforensig

URN: SFHFMH9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn manteisio ar Ddull y Rhaglen Ofal (CPA), sy’n sylfaen i reoli a thrin problemau unigolyn yn effeithiol ac yn gyson trwy weithio mewn partneriaeth amlddisgyblaethol. Mae’n ymwneud â datblygu’r rhaglen ofal, sy’n dwyn ynghyd angen yr unigolyn am driniaeth trwy ddulliau seicogymdeithasol a dulliau eraill er mwyn symud tuag at adfer, gyda’r amodau diogelwch sy’n angenrheidiol i sicrhau bod triniaeth yn gallu cael ei rhoi yn ddiogel. Gall rhaglen o’r fath gwmpasu sawl blwyddyn o driniaeth unigolyn ac mae rhaglenni byr, hyd yn oed, yn cael eu hadolygu wrth i’r dystiolaeth o ymateb yr unigolyn ddod i’r amlwg. Ni waeth pa aelod sy’n gyfrifol am ei lunio, mae cynllun yn gofyn am gyfraniad amrywiaeth o aelodau’r tîm amlddisgyblaethol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. adolygu’r datganiad o broblem yr unigolyn gan ddefnyddio tystiolaeth gydnabyddedig 

P2. nodi ac adolygu nodau realistig triniaeth ar gyfer gwahanol gamau adfer (e.e. gostwng diogelwch, ymgysylltu eto â theulu, gwell ymddygiad rhyngbersonol, rhyddhau i’r gymuned)

P3. nodi’r ffordd orau o ddefnyddio rolau ac arbenigedd y tîm amlddisgyblaethol 

P4. cynnwys yr unigolyn a theulu neu ofalwr mewn nodi nodau, triniaethau a’r patrwm bywyd bob dydd y mae’n dyheu amdano 

P5. ymgynghori â’r tîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys y gweithiwr allweddol, a rhannu cynllunio gofal yn eu plith 

P6. manteisio ar asesiadau cynhwysfawr o’r unigolyn (e.e. asesiad risg, asesiad o gyflwr cymhleth)

P7. pennu a yw triniaethau ar gael i’r unigolyn penodol sy’n addas yn fras i’w hanes a’i broblemau iechyd meddwl a chyffredinol, ac a ydynt yn berthnasol i’r unigolyn 

P8. dewis triniaethau y mae tystiolaeth eu bod yn debygol o weithio i’r unigolyn 

P9. nodi’r lefel isaf o ddiogelwch sy’n amddiffyn yr unigolyn ac eraill yn rhesymol, ond sy’n caniatáu buddion triniaethau a nodwyd a bywyd bob dydd 

P10. amlinellu’r risgiau i’w cymryd a buddion gwneud hynny 

P11. datblygu cynllun wrth gefn i ddelio â newid mewn risg (e.e. os bydd unigolyn yn llithro’n ôl i hen arferion)

P12. amlinellu cynllun gofal integredig gyda llwybr clir at adfer 

P13. sefydlu proses adolygu sy’n cynnwys y tîm amlddisgyblaethol, yn ôl polisi a chanllawiau lleol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. anhwylderau iechyd meddwl 

K2. seicopathi ac anhwylder personoliaeth 

K3. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K4. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad 

K5. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl 

K6. datgan problemau iechyd meddwl 

K7. ymyriadau sy’n canolbwyntio ar adfer

K8. yr amrywiaeth o ymyriadau meddygol, seicolegol, nyrsio a seicogymdeithasol sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun 

K9. tystiolaeth o effeithiolrwydd gwahanol driniaethau, ar eu pen eu hunain ac ar y cyd 

K10. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran triniaeth unigolion 

K11. rolau tîm amlddisgyblaethol a chynllunio gofal integredig 

K12. asesiad risg

K13. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion 

K14. yr angen am feithrin a chynnal perthynas gadarnhaol â holl aelodau tîm clinigol yr unigolyn a phobl eraill sy’n arwyddocaol i’r unigolyn 

K15. yr angen am gyflwyno gwybodaeth glir a chryno ar ffurf ysgrifenedig neu lafar 

K16. sut i ddatblygu cyfranogiad yr unigolyn yn y broses asesu 

K17. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i wahanol bobl (e.e. diwylliant, iaith neu anghenion arbennig) 

K18. pwysigrwydd sefydlu perthynas a sut i wneud hynny 

K19. dulliau o gyfleu gwybodaeth sensitif i unigolion 

K20. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol a gwaith Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl 

K21. hawliau cyfreithiol unigolion 

K22. sut i gefnogi unigolion mewn Tribiwnlys Iechyd Meddwl 

K23. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K23  effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K24. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K26. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K27. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K28. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion 

K29. archwiliadau o effeithiolrwydd clinigol 

K30. y sylfaen dystiolaeth ac ymchwil berthnasol ar gyfer triniaethau meddygol a seicogymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH9

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

adfer, llwybr, datgan, risg, diogelwch, seicogymdeithasol