Asesu a datgan anghenion unigolyn am driniaeth a gofal iechyd meddwl fforensig

URN: SFHFMH8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu unigolyn er mwyn datblygu’i gynllun gofal. Mae problemau iechyd meddwl yr unigolyn eisoes wedi cael eu nodi, a’r dasg fan hyn yw cyfuno a dehongli’r wybodaeth all gael ei defnyddio i ddatgan problemau’r unigolyn a llunio cynllun gofal unigryw. Mae ymwneud y tîm amlddisgyblaethol a’u gweithio mewn partneriaeth trwy Ddull y Rhaglen Ofal yn hanfodol ar gyfer datblygu cynllun gofal ymarferol, cysondeb triniaeth a rheolaeth.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. datblygu asesiad risg clinigol gan ddefnyddio offeryn asesu safonedig (e.e. HONOS SECURE, HCR20)

P2. casglu gwybodaeth am risg hanesyddol yr unigolyn (e.e. hanes personol a theuluol, hanes troseddol, hanes treisgar, nodiadau nyrsio) 

P3. nodi problemau cymhleth posibl sydd gan yr unigolyn (e.e. cydafiacheddau, camddefnyddio sylweddau ac asesiad o Anhwylderau Personoliaeth, Anabledd Dysgu)

P4. ymgysylltu â’r unigolyn wrth nodi amgyffredion yr unigolyn o broblemau cymhleth, gan gynnwys ei strategaethau, ei sgiliau a’i alluoedd ymdopi addasol presennol 

P5. cyflawni asesiad o allu gweithredol ym meysydd hunanofal, hamdden a cynhyrchedd ar y cyd â’r unigolyn 

P6. asesu anghenion corfforol yr unigolyn 

P7. nodi ac asesu anghenion yr unigolyn yn holistig, gan nodi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys ffactorau sy’n gysylltiedig ag effaith diwylliant, hil, rhywedd, ysbrydolrwydd, dosbarth cymdeithasol a ffordd o fyw 

P8. datgan problemau’r unigolyn ac ymgysylltu â’r unigolyn i ddatblygu llwybr gofal amlinellol tuag at adfer iddynt, ar sail y datganiad 

P9. nodi ffactorau risg perthnasol eraill ar gyfer grŵp y boblogaeth y mae’r person yn aelod ohono (e.e. ffactorau risg troseddwyr rhyw) 

P10. nodi, gyda’r unigolyn, y dangosyddion a allai ddangos bod yr unigolyn yn nesáu at lithro’n ôl i hen arferion 

P11. cydweithredu â’r unigolyn wrth ddatgan cynlluniau ar gyfer gofal a thriniaeth yn y dyfodol (e.e. mewn Blaen-ddatganiad sy’n realistig ac yn ymarferol i’w roi ar waith)

P12. cynhyrchu dogfen risg hanesyddol sy’n gallu cael ei throsglwyddo i wahanol ddarparwyr gofal iechyd fforensig a’i diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael 

P13. cyfuno’r deiliannau a thrafod canlyniadau’r asesiad i lywio cynllun gofal cychwynnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. offer ar gyfer asesu risg a gallu i drin (e.e. SVR 20 a START) 

K2. offer asesu clinigol (e.e. BDI, BSI)

K3. technegau cyfweld 

K4. dulliau a gweithdrefnau ymchwiliol

K5. canllawiau neu bolisïau lleol ar Flaen-ddatganiadau (yr Alban) / Blaen-gyfarwyddebau (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon)

K6. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth asesu unigolion 

K7. datgan problemau iechyd meddwl 

K8. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad 

K9. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl 

K10. anhwylderau iechyd meddwl 

K11. seicopathi ac anhwylder personoliaeth 

K12. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K13. asesiad risg 

K14. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion 

K15. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol 

K16. hawliau cyfreithiol unigolion

K17. sut i ddatblygu cyfranogiad yr unigolyn yn y broses asesu 

K18. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i wahanol bobl (e.e. diwylliant, iaith neu anghenion arbennig) 

K19. sefydlu perthynas â phobl ar wahanol lefelau gallu ac ymwybyddiaeth 

K20. dulliau o gyfleu gwybodaeth sensitif i unigolion

K21. sut i gynnwys yr unigolyn yn y broses asesu a chynllunio triniaeth (e.e. deall salwch meddwl, rheoli dicter)

K22. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K23. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K24. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K25. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K26. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K27. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB6 Asesu a chynllunio triniaeth


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH8

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

adfer, llwybr, datgan, risg