Atal mynediad neu drosglwyddo eitemau gwaharddedig neu dan gyfyngiad i uned ddiogel

URN: SFHFMH7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r mesurau diogelwch, gan gynnwys chwiliadau personol ac amgylcheddol, y mae’n rhaid eu defnyddio er mwyn cadw deunyddiau anghyfreithlon allan o gyrraedd unigolion a allai gamddefnyddio’r deunyddiau hyn. Gall mesurau diogelwch fod yn ysgogiad i rai unigolion, gan achosi trallod iddynt. Mae angen sgiliau, sensitifrwydd a thact wrth eu rhoi ar waith a’u rheoli, nodweddion sy’n annatod i Ddull y Rhaglen Ofal, sy’n anelu at hyrwyddo dull a rheolaeth eglur a chyson.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. rhoi gwybod i unigolion am y polisi ar eitemau gwaharddedig ac eitemau dan gyfyngiad 

P2. lle bo’n bosibl, cwblhau a rhoi’r asesiad risg a’r cynllun rheoli ar waith mewn partneriaeth â’r unigolyn, os oes gan yr unigolyn broblem camddefnyddio sylweddau 

P3. sicrhau eich bod yn cadw at bolisi eich sefydliad ar eitemau gwaharddedig ac eitemau dan gyfyngiad 

P4. gwneud yn siŵr bod y polisi ar eitemau gwaharddedig ac eitemau dan gyfyngiad yn weladwy iawn pan ddaw pobl i mewn 

P5. sicrhau bod systemau ar waith sy’n gofyn i ymwelwyr gydymffurfio â’r polisi ar eitemau gwaharddedig ac eitemau dan gyfyngiad 

P6. sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn mynd trwy broses ddarganfod sy’n addas ar gyfer y lleoliad (e.e. cyfarpar datgelydd metel, archwilio bagiau, chwilio ar hap trwy gyffwrdd dillad), pan fo’n berthnasol

P7. gwneud cofnod cywir a chyflawn o eiddo personol yr unigolyn, gyda chydweithrediad yr unigolyn os yw’n bosibl 

P8. meithrin deallusrwydd am fynediad posibl a mynediad gwirioneddol eitemau gwaharddedig ac eitemau dan gyfyngiad 

P9. arsylwi ymddygiad yr unigolyn a, phan fyddwch chi’n amau y gall unrhyw newidiadau fod o ganlyniad i bresenoldeb eitemau gwaharddedig neu eitemau dan gyfyngiad, cydnabod a rhannu eich amheuon gydag aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol 

P10. pan fydd tystiolaeth bod unigolyn yn tanseilio diogelwch trwy geisio cael rhywun i ddod ag eitemau anghyfreithlon i mewn iddo, gwella diogelwch trwy fonitro post a galwadau ffôn a chychwyn ymweliadau caeedig 

P11. darganfod eitemau mewn ardaloedd mynediad a chlinigol lle’r ydych chi’n amau bod y polisi wedi cael ei dorri (e.e. defnyddio datgelyddion metel, archwilio bagiau ymwelwyr, defnyddio cŵn synhwyro cyffuriau, cynnal chwiliad)

P12. pan fydd tystiolaeth y gall eitemau gwaharddedig neu eitemau dan gyfyngiad fod yn bresennol, chwilio ystafell, ward neu ardal ymwelwyr 

P13. cymhwyso lefel ymwthiol sy’n gymesur i lefel y risg yn ystod unrhyw chwiliad o’r unigolyn a/neu ei eiddo personol 

P14. ymgymryd â phob chwiliad gan roi ystyriaeth briodol i urddas a phreifatrwydd, gan ddefnyddio aelodau staff o’r un rhyw 

P15. gwybod gyda phwy y dylech gysylltu os bydd unigolyn yn gwrthod cael ei chwilio, a sut i symud ymlaen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. sut i gasglu a defnyddio deallusrwydd am unrhyw hanes o gamddefnyddio sylweddau a/neu gyflenwi gan unigolion, eu teulu a/neu eu rhwydweithiau cymdeithasol, ac unrhyw risgiau posibl o lithro’n ôl i’w hen arferion mewn lleoliad cymunedol 

K2. cydweithio ag asiantaethau eraill o ran sylweddau/deunyddiau anghyfreithlon neu waharddedig 

K3. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth ddarganfod eitemau gwaharddedig neu eitemau dan gyfyngiad 

K4. anhwylderau iechyd meddwl 

K5. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K6. yr ymagwedd system gyfan at lefel y diogelwch a rolau unigolion, gan gynnwys eich rôl eich hun 

K7. fframwaith cyfreithiol a chodau ymarfer sy’n ategu mesurau diogelwch (e.e. deddfwriaeth iechyd meddwl)

K8. system adrodd deallusrwydd diogelwch 

K9. system adrodd digwyddiadau andwyol (e.e. ffurflenni achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd)

K10. protocolau a thechnegau chwilio personol ac amgylcheddol a’r defnydd diogel a chyson ohonynt 

K11. polisi lleol ar ddiogelwch corfforol 

K12. codau ymddygiad proffesiynol a moeseg

K13. hawliau cyfreithiol unigolion ac ymwelwyr

K14. technegau arsylwi

K15. technegau chwilio 

K16. sgiliau negodi

K17. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K18. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K19. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K20. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K21. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K22. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 3 Iechyd, diogelwch a diogeledd


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH7

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, risg, chwilio