Cytuno ar newid i lefel y diogelwch sy’n berthnasol i unigolyn

URN: SFHFMH6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chodi neu ostwng lefel diogelwch unigolyn ar sail asesiad o risg a buddion newid. Fel ym mhob sefyllfa, mae angen nodi’r driniaeth sydd ei hangen ar yr unigolyn a’r cyfuniad o ddiogelwch corfforol, gweithdrefnol a pherthynol sydd ei angen er mwyn darparu’r driniaeth honno’n ddiogel. Yn ganolog i’r safon hon yw’r defnydd o Ddull y Rhaglen Ofal fel ffynhonnell wybodaeth a mecanwaith ar gyfer ymgymryd â gwneud y penderfyniadau gorau. 

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. adolygu’r wybodaeth o’r cynllun gofal integredig am hanes risg, rheswm dros dderbyn, asesiad risg a chynllun rheoli’r unigolyn (e.e. graddau’r perygl clir a phresennol i bobl eraill, lefel risg dianc, difrifoldeb y brif drosedd)

P2. trafod, gyda’r tîm amlddisgyblaethol, i ba raddau y mae’r meini prawf derbyn yn berthnasol o hyd i’r unigolyn a gwybodaeth arall a all ddylanwadu ar benderfyniad i newid ar ba lefel ddiogelwch y mae’r unigolyn yn cael ei chadw 

P3. ymgysylltu â’r unigolyn a thrafod y newid posibl, a gwerthuso’i farn a’i deimladau a’r ymateb tebygol i newid  

P4. ystyried defnyddio eiriolaeth i sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed

P5. addasu’r cynllun gofal integredig, gan gytuno ar y risgiau, y buddion, bregusrwydd, anghenion triniaeth a’r deiliannau i’r unigolyn 

P6. cytuno ar y cyfuniad o ddiogelwch corfforol, gweithdrefnol a pherthynol sydd ei angen i ddarparu’r driniaeth honno yn ddiogel 

P7. nodi ffactorau a all ansefydlogi mewn lleoliad arall (e.e. cael at ddata a gasglwyd ar gyfer archwiliad, dysgu’r gwersi o brofiad blaenorol/ffactorau risg os bydd unigolyn yn dychwelyd i lefel ddiogelwch flaenorol)

P8. nodi sut i ymateb i hapddigwyddiadau (e.e. dysgu’r gwersi o brofiad blaenorol, p’un ai i ddychwelyd yr unigolyn i’w lefel ddiogelwch bresennol)

P9. gwerthuso p’un a yw newid lefel y diogelwch ar gyfer cadw’r unigolyn yn debygol o arwain at fuddion 

P10. nodi lleoliad â lefel ddiogelwch addas sydd â lle a chyfleusterau priodol, ac sy’n bodloni anghenion a lles pennaf yr unigolyn (e.e. o fewn cyrraedd hawdd i ofalwyr/pobl arwyddocaol eraill i gynnal cysylltiad)

P11. cytuno â staff yn y lleoliad arfaethedig ar risgiau, buddion, anghenion triniaeth a deilliannau, a ph’un a fyddant yn derbyn yr unigolyn i’r lleoliad 

P12. esbonio’r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud wrth yr unigolyn, teulu a gofalwyr, a thrafod unrhyw bryderon allai fod ganddynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. asesu uniongyrchedd a difrifoldeb risg bresennol a risg bosibl 

K2. effaith yr amgylchedd corfforol a strwythurau ar ymddygiadau risg presennol ac ymddygiadau risg posibl 

K3. casglu gwybodaeth a methodolegau perthnasol a chyfredol ar gyfer gwneud hynny (e.e. HCR 20)

K4. gwerthuso uniongyrchedd a difrifoldeb ymddygiadau risg 

K5. asesiad risg 

K6. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion 

K7. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth neilltuo unigolion i lefelau diogelwch 

K8. seicopathi ac anhwylder personoliaeth 

K9. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K10. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad 

K11. athroniaeth therapiwtig, ffiniau a chyfundrefnau triniaeth yn eich sefydliad chi ac mewn sefydliadau eraill 

K12. meini prawf derbyn lleol 

K13. meini prawf derbyn i sefydliadau o bob lefel diogelwch 

K14. lefelau diogelwch fel y cânt eu defnyddio yn y gwasanaeth carchardai, y GIG ac yn y sector annibynnol 

K15. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol 

K16. hawliau cyfreithiol unigolion 

K17. sgiliau negodi

K18. protocolau cyfathrebu rhwng sefydliadau 

K19. rolau eraill yn y broses (e.e. rhanddeiliaid mewnol ac allanol)

K20. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i wahanol bobl (e.e. diwylliant, iaith neu anghenion arbennig) 

K21. pryd a sut i ddefnyddio eiriolaeth

K22. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K23. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K24. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl

K25. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K26. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K27. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH6

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, risg, derbyn