Lleihau’r risgiau i unigolion a staff yn ystod ymyriadau clinigol a digwyddiadau treisgar ac ymosodol

URN: SFHFMH5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r camau y mae’n rhaid eu cymryd pan all unigolyn fod yn dreisgar neu’n ymosodol, neu pan mae wedi mynd yn dreisgar neu’n ymosodol, neu os oes rheswm cryf i gredu y bydd yn gwneud hynny yn ystod ymyrraeth glinigol. Yr hyn sy’n cael ei ffafrio, o bell ffordd, yw lleihau tensiwn, ond pan fydd lleihau tensiwn geiriol a lleoliadol yn methu â gweithio, gall fod angen ymyriadau ychwanegol, fel ymyrraeth gorfforol, defnyddio tawelydd cyflym a chadw unigolyn ar wahân er mwyn rheoli’r digwyddiad. Dylai ymyriadau o’r fath gael eu hystyried dim ond ar ôl rhoi cynnig ar dechnegau lleihau tensiwn a bod y rhain wedi methu â thawelu’r unigolyn. Mae angen i holl aelodau’r tîm amlddisgyblaethol wybod a chefnogi’r cynllun gofal trwy Ddull y Rhaglen Ofal er mwyn rheoli’n gyson.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. asesu hanes yr unigolyn a rhoi gwybod i’r tîm am yr hanes – rhesymau, pethau sy’n achosi straen, nodweddion bregus ac amodau ansefydlogi sydd wedi arwain at drais 

P2. nodi pan fydd risg niwed i unigolyn a/neu aelodau staff o drais ac ymosodedd tebygol neu wirioneddol yr unigolyn (e.e. adnabod pethau sy’n hysbys eu bod yn achosi straen) 

P3. mabwysiadu camau ataliol trwy aelod tîm sydd â pherthynas dda â’r unigolyn (e.e. ymddygiadau disgwyliedig ac ymddygiadau effeithiol eraill cytunedig)

P4. lleihau tensiwn mewn amgylchedd y mae’n hysbys ei fod yn ddigynnwrf ac nad yw’n gysylltiedig â chadw’r unigolyn ar wahân 

P5. siarad ac ymddwyn mewn ffordd sy’n osgoi pryfocio (e.e. osgo sy’n tawelu meddwl yr unigolyn)

P6. lleihau tensiwn yn ddieiriau a chynnal posibiliadau ar gyfer ymgysylltu trwy gydol y digwyddiad 

P7. defnyddio cefnogaeth neu atal dwys, yn unol â phrotocolau lleol os bydd lleihau tensiwn yn methu 

P8. troi at roi tawelydd cyflym neu gadw’r unigolyn ar wahân dim ond os bydd protocolau lleol yn caniatáu hynny a dim ond pan fydd strategaethau lleihau tensiwn a strategaethau eraill wedi methu â thawelu’r unigolyn 

P9. dewis a chynnal ymyriadau sy’n gymesur i risg yr unigolyn ac sy’n gyson ag anghenion clinigol yr unigolyn a, lle bo’n bosibl, ei Flaen-ddatganiad

P10. cydnabod pa aelod staff sydd ag awdurdod pan fydd atal, rhoi tawelydd cyflym neu gadw unigolyn ar wahân yn ofynnol er mwyn cynorthwyo â lleihau tensiwn yn eiriol 

P11. sicrhau bod cyfarpar meddygol brys angenrheidiol yn ei le (e.e. cyfarpar adfywio)


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. achosion ymosodedd a thrais mewn lleoliadau diogel a chymunedol 

K2. anhwylderau iechyd meddwl 

K3. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K4. ymddygiadau troseddol, gydag ystyriaeth arbennig i ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl 

K5. seicopathi ac anhwylder personoliaeth 

K6. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad 

K7. technegau lleihau tensiwn 

K8. dulliau rheoli ac atal

K9. egwyddorion ac ymarfer wrth ddefnyddio amser ymdawelu 

K10. y cysylltiad rhwng cyflyrau corfforol a’r angen am atal corfforol 

K11. rhoi tawelydd cyflym a phrotocolau lleol ar eu cyfer 

K12. canllawiau cenedlaethol presennol (e.e. NICE, SIGN) 
K13. protocolau ar gyfer cadw unigolyn ar wahân 

K14. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad chi ac mewn sefydliadau eraill 

K15. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth reoli digwyddiadau treisgar ac ymosodol 

K16. technegau adfywio

K17. canllawiau neu bolisïau lleol ar Flaen-ddatganiadau 

K18 codau ymddygiad proffesiynol, polisïau lleol, protocolau a chanllawiau 

K19. negodi

K20. theori ac ymarfer rheoli ymosodedd 

K21. theori ac ymarfer lleihau ymosodedd

K22. theori ac ymarfer ôl-friffio 

K23. sut i ailsefydlu perthnasoedd 

K24. sut i arddangos parch cadarnhaol diamod 

K25. polisi a gweithdrefnau lleol ar reoli ymosodedd 

K26. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i wahanol bobl (e.e. diwylliant, iaith neu anghenion arbennig) 

K27. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K28. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K29. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K30. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K31. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K32. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion

K33. dadansoddi rhagflaenyddion penodol ymosodedd yn ôl unigolyn ac uned


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB3 Amddiffyn iechyd a lles


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH5

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, lleihau tensiwn, atal, bregusrwydd; ymgysylltu