Cefnogi unigolyn i ostwng risg ac effaith ymddygiad hunan-niweidiol

URN: SFHFMH4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu risg unigolion o niweidio’u hunain a, phan fydd risg yn cael ei nodi, darganfod dulliau o leihau’r risg honno o dan yr amgylchiadau uniongyrchol ac yn y tymor hwy trwy gynlluniau gofal yr unigolion. Mae hyn yn cynnwys lleihau lefel yr anaf sydd wedi’i achosi gan ymddygiadau hunan-niweidiol, yn emosiynol ac yn gorfforol. Gall fod angen ystyried materion rhywedd hefyd, er enghraifft gyda menywod sydd wedi cael eu cam-drin yn gorfforol neu’n rhywiol yn y gorffennol. Mae angen i holl aelodau’r tîm amlddisgyblaethol wybod a chefnogi’r cynllun gofal trwy Ddull y Rhaglen Ofal er mwyn sicrhau rheolaeth eglur a chyson.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. asesu pa mor angheuol y gallai ymddygiad hunan-niweidiol blaenorol yr unigolyn fod wedi bod 

P2. nodi ysgogiadau a swyddogaeth yr ymddygiad hunan-niweidiol 

P3. nodi newidiadau mewn hwyliau ac ymddygiad sy’n arwyddo cynnydd yn risg hunan-niweidio 

P4. nodi amgyffrediad yr unigolyn o hunan-niweidio, yr ysgogiadau a’r rhesymau dros ei ddefnyddio fel strategaeth ymdopi (gan gynnwys materion penodol i rywedd) 

P5. datblygu datganiad o’r ymddygiad hunan-niweidiol 

P6. nodi anghenion therapiwtig yr unigolyn (e.e. er mwyn datblygu sgiliau ymdopi i gymryd lle’r ymddygiad hunan-niweidiol)

P7. cynnal cyfleoedd i ymgysylltu â’r unigolyn er mwyn cydweithio ar fynd i’r afael â’r problemau sydd bwysicaf iddynt (e.e. gweithgareddau hamdden, sgwrs)

P8. rhannu’r datganiad gyda’r tîm  

P9. diweddaru cynllun gofal yr unigolyn i’w helpu i ddelio â’r problemau sy’n creu risg hunan-niweidio (e.e. cyflwyno mesurau therapiwtig seicogymdeithasol newydd)

P10. rhoi gweithdrefnau cytunedig ar waith i ymgysylltu â’r unigolyn a monitro’r unigolyn yn gymesur â’r risg hunan-niweidio, ac yn gyson ag anghenion clinigol a, lle bo’n bosibl, Blaen-ddatganiad yr unigolyn

P11. gwneud newidiadau i’r amgylchedd er mwyn lleihau’r gallu i gael at ddulliau cyflawni hunan-niwed, heb gyfyngu’n ormodol ar weithgareddau’r unigolyn (e.e. tawelwch a gofod)

P12. adolygu mesurau perthynol, gweithdrefnol ac amgylcheddol yn fynych


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. asesiad clinigol 

K2. asesiad risg 

K3. anhwylderau iechyd meddwl 

K4. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K5. seicoleg hunan-niwed, parahunanladdiad a hunanladdiad 

K6. egwyddorion ac arfer rhaglenni lleihau niwed o ran ymddygiadau hunan-niweidiol 

K7. safonau a chanllawiau cenedlaethol 

K8. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad chi ac mewn sefydliadau eraill 

K9. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer yn nhriniaeth unigolion 

K10. protocolau ar gyfer osgoi hunan-niwed unigolion

K11. negodi, datrys gwrthdaro, empathi a sicrwydd wrth weithio gydag ymddygiad hunan-niweidiol 

K12. technegau cwestiynu, trafod a sgwrsio 

K13. parch cadarnhaol diamod a thechnegau cwnsela cefnogol 

K14. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K15. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K16. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K17. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K18. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K19. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion (e.e. ar gyfer archwiliad)

K20. trefniadau llywodraethu a pholisi lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB3 Amddiffyn iechyd a lles


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH4

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, diogelwch, datganiad