Arsylwi unigolyn sy’n peri risg uniongyrchol sylweddol i’w hun neu i eraill

URN: SFHFMH3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag arsylwi unigolion yr ystyrir bod eu hymddygiad cynhyrfus neu dreisgar yn peri risg uniongyrchol, sylweddol i’w hunain neu i bobl eraill, gan gynnwys staff (e.e. trwy ymddygiad hunan-niweidiol, hunanladdiad, bwlio, aflonyddu). Gan fod arsylwi ynddo’i hun yn gallu bod yn ysgogiad ymddygiad o’r fath, mae angen ei gyflawni’n barhaus ac yn llym, ond yn sensitif ac, i’r graddau ag y bo’n bosibl, diogelu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn. Yn ddelfrydol, mae arsylwi effeithiol hefyd yn ymwneud ag ymgysylltu effeithiol ac mae ganddo fudd therapiwtig cadarnhaol. Mae angen i holl aelodau’r tîm amlddisgyblaethol wybod a chefnogi’r cynllun gofal trwy Ddull y Rhaglen Ofal er mwyn cyflawni rheolaeth gyson.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. bod yn hynod ymwybodol o ddangosyddion risg yr unigolyn a nodwyd yn ei gynllun gofal integredig a’r ffactorau a all gynyddu neu ostwng y risg (e.e. risg cyflawni hunanladdiad)

P2. pennu’r ffactorau risg dynamig sy’n bresennol ar y pryd yn gysylltiedig â’r unigolyn (e.e. piwisrwydd, rhith-glywed pethau, gorsymbyliad amgylcheddol, diflastod)

P3. nodi i bwy mae’r risg yn bodoli 

P4. cytuno â’r tîm ar ba lefel arsylwi sydd ei hangen (e.e. gwelededd, cylchdroi aelodau tîm), a’i hawdurdodi

P5. ymgysylltu â’r unigolyn i drafod pam mae’n destun arsylwi, nodau’r arsylwi, pa mor agos bydd yn cael ei arsylwi ac am ba hyd mae hyn yn debygol o gael ei gynnal 

P6. diffinio’r amodau sydd angen bodoli er mwyn gostwng lefelau arsylwi 

P7. diogelu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn, i’r graddau ag y bo hynny’n bosibl 

P8. dileu’r ffactorau amgylcheddol sy’n debygol naill ai o gynyddu lefel y risg neu ei chynnal ar y lefel bresennol (e.e. lleihau’r symbyliad, megis symud yr unigolyn i amgylchedd isel ei symbyliad)

P9. cymhwyso, yn barhaus ac yn sensitif, lefel yr arsylwi sydd lleiaf ymyrrol, yn gyson â’r gofyniad am allu gweld yr unigolyn (yn gyffredinol, o dro i dro, o fewn golwg, o fewn hyd braich)

P10. cylchdroi staff yn rheolaidd, fel y’i cynlluniwyd, i gynnal lefelau uchel o sylw

P11. ceisio cyfleoedd i ymgysylltu a chydweithredu â’r unigolyn cyn gynted â phosibl (e.e. gweithgareddau hamdden, sgwrs)

P12. cyflwyno neu atgyfnerthu strategaethau ymdopi y gall yr unigolyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd risg 

P13. canfod dangosyddion fod lefel risg yr unigolyn yn gostwng (e.e. nid yw’n rhith-weld pethau mwyach, lefel cynhyrfiad)

P14. sicrhau bod sefyllfa nesaf yr unigolyn mor ddiogel a chefnogol â phosibl (e.e. amgylchedd nad yw’n symbylu’r unigolyn yn ormodol) 

P15. nodi, gyda’r unigolyn a’r tîm amlddisgyblaethol, beth all gael ei ddysgu o’r digwyddiad a chofnodi’r ffeithiau a’r canfyddiadau yn ôl protocolau lleol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. technegau arsylwi, gan gynnwys sut i gydbwyso gwelededd, ffocws a sensitifrwydd 

K2. y fframwaith moesegol a chyfreithiol ar gyfer sensitifrwydd wrth arsylwi, gan barchu hawliau preifatrwydd ac urddas unigolyn 

K3. theori ac ymarfer technegau lleihau tensiwn a’r technegau sy’n benodol i unigolion 

K4. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth arsylwi unigolion o fewn amrywiaeth o leoliadau a chyd-destunau 

K5. protocolau ar gyfer cofnodi arsylwadau ac adrodd amdanynt 

K6. ymddygiadau a chyfleoedd i gyflawni hunanladdiad, gan gynnwys clymiad

K7. ymddygiadau troseddol, gydag ystyriaeth arbennig i ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl 

K8. anhwylderau iechyd meddwl 

K9. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau 

K10. seicopathi ac anhwylder personoliaeth 

K11. dangosyddion risg a ffactorau risg dynamig

K12. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad chi ac mewn sefydliadau eraill 

K13. amrywiaeth o strategaethau ymdopi y gall unigolion eu mabwysiadu 

K14. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol 

K15. codau ymddygiad proffesiynol (e.e. yn gysylltiedig ag atebolrwydd, llywodraethu)

K16. hawliau cyfreithiol unigolion 

K17. trefniadau polisi/llywodraethu lleol

K18. sgiliau negodi 

K19. technegau datrys gwrthdaro 

K20. technegau arsylwi ar lefelau gwahanol 

K21. polisi a gweithdrefnau lleol ar arsylwi a rheoli ymosodedd 

K22. canllawiau ar arsylwi a rheoli trais (e.e. NICE, CRAG, SIGN)

K23. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K24. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K25. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K26. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K27. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K28. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB3 Amddiffyn iechyd a lles


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH3

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, hunan-niweidio, lleihau tensiwn, ymgysylltu, troseddu