Galluogi unigolyn a’i blentyn i gyfarfod
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r trefniadau a’r gwiriadau mae’n rhaid i chi eu gwneud pan fydd y gofal sydd wedi’i gynllunio i unigolyn mewn lleoliad fforensig yn cynnwys ymgysylltu â phlentyn neu blant yn ei deulu. Penderfynwyd y dylid ystyried cyfarfod a gwnaed cais am gyfarfod gyda’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Trwy weithio gydag asiantaethau cymwys, byddwch yn sicrhau bod gwerthusiad o’r risgiau a’r buddion i’r plant, a bod y risgiau a’r buddion wedi’u cydbwyso, a bod y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys ac yn cael ei baratoi’n briodol cyn cyfarfod neu siarad â’r unigolyn. Nid yw hon yn rôl amddiffyn plant arbenigol, ond mae’n cynnwys cydweithio ag arbenigwyr mewn asiantaethau cymwys i sicrhau bod y penderfyniad yn adlewyrchu lles pennaf y plant.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. comisiynu asesiad annibynnol gan yr asiantaeth gymwys a sicrhau bod cydbwysedd y risg a’r budd yn y cyswllt arfaethedig yn cael ei ystyried i fod er lles pennaf y plentyn
P2. o’ch gwybodaeth am yr unigolyn, nodi ac adrodd am:
P2.1. y niwed a’r buddion i’r plentyn yn y berthynas flaenorol â’r unigolyn
P2.2. y risgiau i’r plentyn o gael ymgysylltiad newydd neu barhaus â’r unigolyn (e.e. risg gorfforol uniongyrchol, amlygiad i ymddygiad sy’n codi braw, ysgogi atgofion annifyr)
P3. ymgysylltu â’r unigolyn i asesu ei feddyliau a’i deimladau am y plentyn a dilysu mai nhw yw’r rhiant (e.e. gwirio’u bod yn gwybod enwau llawn, dyddiad geni ac enwau neiniau/teidiau)
P4. gyda’r tîm, y teulu ac asiantaeth gymwys, cytuno ar fath o ymgysylltiad lle byddai buddion clir i’r plentyn, i’r unigolyn ac i’r teulu, a lle gellid rheoli risgiau
P5. sicrhau bod y plentyn wedi cael cyfleoedd gyda’r asiantaeth gymwys i fynegi ei feddyliau a’i deimladau’n llawn am yr unigolyn a’r ailymgysylltiad posibl neu’r cysylltiad parhaus
P6. sicrhau bod yr asiantaeth gymwys wedi cael cydsyniad dilys y plentyn i ymgysylltu â’r unigolyn a bod y plentyn wedi cael ei baratoi ar gyfer hyn
P7. paratoi’r unigolyn ar gyfer unrhyw ymgysylltiad a beth gall ei ddisgwyl ohono
P8. nodi unrhyw newidiadau yn y risgiau disgwyliedig yn syth cyn y cyfarfod
P9. darparu amddiffyniad amgylcheddol, gweithdrefnol a chorfforol i’r plentyn yn ystod yr ymgysylltiad (e.e. arsylwi, man cyfarfod sy’n gallu cael ei arsylwi, oedolyn dibynadwy yn gwmni)
P10. bodloni gofynion cyfreithiol o fewn deddfwriaeth gofal plant a chyfarwyddebau diogelu/amddiffyn plant
P11. nodi’r effaith ar yr unigolyn a defnyddio hyn gyda gwerthusiad yr asiantaeth gymwys o’r effaith ar y plentyn er mwyn cynllunio neu derfynu ymgysylltiad pellach ar sail risgiau a buddion
P12. helpu’r unigolyn i ddeall beth ddigwyddodd yn ystod yr ymgysylltiad a’i feddyliau a’i deimladau sy’n deillio o’r ymgysylltiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. asesiad risg
K2. sut i sefydlu amgylchedd diogel, gan gynnwys asesu risg ystafell gyfarfod, lefelau arsylwi a nifer y staff hebrwng sy’n ofynnol
K3. asesu risg cyflwyniad clinigol yr unigolyn cyn yr ymgysylltiad
K4. cydbwysedd y risg i’r buddion er mwyn hysbysu’r penderfyniad p’un a ddylai cyfarfod neu sgwrs fynd yn ei blaen ai peidio
K5. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion
K6. risgiau i blant sy’n deillio o ymgysylltu â rhiant sydd wedi ymddieithrio neu riant sy’n sâl
K7. cysyniad ‘lles pennaf y plentyn’
K8. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl ac ystyriaethau sy’n gysylltiedig â’r risgiau i blant, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol
K9. prosesau ac effeithiau cam-drin plant
K10. dynameg deuluol
K11. anhwylderau iechyd meddwl
K12. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K13. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K14. dulliau o oruchwylio cyfarfod
K15. cyfraith gofal plant, deddfwriaeth gofal plant, protocolau ac arfer gorau (e.e. argymhellion Diogelu Plant)
K16. argymhellion y llywodraeth ynghylch mynd â phlant i ymweld ag unigolion mewn lleoliadau dan glo
K17. asiantaethau mewn gwahanol rannau o’r wlad sy’n darparu asesiadau risg amddiffyn plant ac yn paratoi plant i gyfarfod ag unigolion
K18. adroddiadau ymchwiliadau i reoli ymgysylltiad rhwng unigolion a phlant mewn lleoliadau iechyd meddwl fforensig
K19. sut i wirio bod cydsyniad dilys plentyn wedi’i sicrhau
K20. arsylwi
K21. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K22. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K23. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K24. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K25. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K26. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
K27. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth am blant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB3 Amddiffyn iechyd a lles