Dod o hyd i le i unigolyn mewn gwasanaethau diogel
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r broses o ddod o hyd i le i unigolyn ar y lefel ddiogelwch gywir (corfforol, perthynol ac amgylchedd) a fydd yn galluogi’r driniaeth i ddigwydd. Mae’n cynnwys dod o hyd i asesiad a thriniaeth addas o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl. Mae’n cynnwys nodi’r lleoliad therapiwtig addas sy’n anelu at adfer, ynghyd â barnu am fuddion a risgiau gosod unigolyn ar y lefel isaf o ddiogelwch sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelwch yr unigolyn a diogelwch pobl eraill. Er mwyn gwneud hyn, mae angen cael cyfraniad amlddisgyblaethol ac amlasiantaeth gan ddefnyddio Dull y Rhaglen Ofal.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. ymgynghori â chydweithwyr yn y tîm amlddisgyblaethol i ddysgu am yr unigolyn a’r cyfleusterau a all fod yn addas iddo
P2. nodi pob gwybodaeth ddiogelwch, feddygol a gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’r unigolyn (e.e. dogfennau sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl)
P3. nodi lleoliad sy’n cyfrif am ddifrifoldeb y brif drosedd, y meini prawf derbyn lleol, a’r rheolaeth ddiogel lleiaf cyfyngol ar yr unigolyn o ddydd i ddydd (e.e. yr asesiad o risg aildroseddu neu ddiflannu, difrifoldeb y trais a pha mor beryglus ydoedd)
P4. asesu’r risgiau a’r bregusrwydd y mae unigolyn yn eu peri iddo’i hyn neu i eraill (e.e. os yw problemau ymddygiadol unigolyn yn peryglu ei les corfforol a/neu seicolegol, dangos ymosodedd neu drais yn gysylltiad â salwch meddwl)
P5. cael cytundeb rhwng y corff cyfeirio a’r uned driniaeth ar y deilliannau therapiwtig cadarnhaol a ddisgwylir o dderbyn yr unigolyn
P6. cyfrif am agosrwydd at deulu’r unigolyn, lle bo’n berthnasol
P7. datgan yr amlinelliad o’r driniaeth feddygol a seicolegol y gall fod ar yr unigolyn ei hangen a’r cyfuniad o ddiogelwch corfforol, gweithdrefnol a pherthynol sydd eu hangen i ddarparu’r driniaeth honno yn ddiogel
P8. gwneud trefniadau derbyn priodol i’r uned driniaeth gytunedig
P9. cofnodi canlyniad yr asesiad ar gyfer derbyn a chyfleu hyn i’r unigolyn, i ofalwyr, perthnasau agos, meddyg teulu, y meddygon sy’n ymwneud â’r asesiad, y sawl sy’n cyfeirio a’r gweithiwr allweddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. asesiad risg
K2. asesiad actiwaraidd o ran pennu’r lefel ddiogelwch
K3. egwyddor a buddion y rheolaeth leiaf cyfyngol a’r lefel isaf o ddiogelwch
K4. asesu hanes unigolyn o droseddu ac ymddygiadau troseddol er mwyn pennu lefel ddiogelwch
K5. asesiad risg glinigol ac asesu risg trais ac aildroseddu
K6. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion
K7. effeithiau sefydliadol a chyd-destunol ar risg a’i rheolaeth
K8. asesu uniongyrchedd a difrifoldeb ymddygiadau troseddol yr unigolyn
K9. anhwylderau iechyd meddwl
K10. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K11. y cynnydd mewn risg sy’n cael ei greu gan amharodrwydd unigolyn i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth presennol a gwasanaethau cymorth sydd yn yr arfaeth
K12. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad chi ac mewn sefydliadau eraill
K13. problemau darparu gofal therapiwtig mewn lleoliad caethiwo
K14. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth dderbyn a thrin unigolion
K15. meini prawf derbyn lleol
K16. meini prawf ar gyfer derbyn i sefydliadau ar bob lefel diogelwch
K17. prosesau comisiynu presennol a’u heffaith ar atgyfeiriadau
K18. deddfwriaeth iechyd meddwl presennol a’i heffaith ar dderbyn
K19. lefelau diogelwch fel y cânt eu defnyddio yn y gwasanaeth carchardai, y GIG a’r sector annibynnol
K20. deddfwriaeth iechyd meddwl bresennol a rheoliadau a safonau cenedlaethol a lleol eraill
K21. hawliau cyfreithiol unigolion a’u teuluoedd
K22. sgiliau negodi
K23. protocolau cyfathrebu rhwng sefydliadau ac asiantaethau
K24. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K25. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K26. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K27. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K28. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K29. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles