Cefnogi ymgysylltiad rhwng unigolyn a’i deulu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r angen am dalu sylw i’r berthynas rhwng unigolyn a’i deulu, os bernir bod ymgysylltiad o’r fath yn fuddiol. Yn achos pobl mewn gofal iechyd meddwl fforensig, mae methu i’w weld i raddau sylweddol yn y berthynas deuluol. Mae’n bosibl bod un neu fwy o aelodau’r teulu wedi dioddef oherwydd yr unigolyn. Mae angen mynd i’r afael â statws perthnasoedd, cyd-destun unrhyw fethu yn y berthynas, a’r potensial am gynnwys a gweithio gydag aelodau’r teulu. Mae risgiau yn ogystal â buddion yn gynhenid yn y perthnasoedd hyn, y mae angen eu deall cymaint â phosibl a, hefyd, bydd angen mynd i’r afael ag unrhyw anghenion ieithyddol a diwylliannol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. ystyried pa gyswllt sy’n parhau gyda’r teulu, a buddion a risgiau ymddangosiadol hyn
P2. ystyried pa aelodau’r teulu sy’n bwysig i’r unigolyn, gan gynnwys pobl y collwyd cysylltiad â nhw, p’un a yw unrhyw rai ohonynt wedi bod yn ddioddefwyr a safon y perthnasoedd presennol
P3. mynd ati i drafod, gyda’r unigolyn, ei feddyliau a’i deimladau am gyswllt ac am gynnwys aelodau’r teulu yn ei ofal, gan gynnwys materion cyfrinachedd
P4. asesu’r risgiau sy’n deillio o wrthdaro a/neu densiynau rhwng aelodau’r teulu, yn enwedig gwahaniaethau’n gysylltiedig â gofal yr unigolyn neu wahaniaethau y mae’n ymddangos eu bod yn cael effaith ar iechyd meddwl yr unigolyn
P5. ystyried anawsterau presennol a hanesyddol yr unigolyn yng nghyd-destun ei berthnasoedd teuluol arwyddocaol, gan gynnwys y perthnasoedd sydd wedi’u cynnal a’r rhai sydd wedi methu
P6. asesu a mynd i’r fael â’r anghenion ieithyddol a diwylliannol cyn cynnal yr ymweliad
P7. os bydd yr unigolyn yn cytuno, trefnu cyfarfod â’r perthnasau a sicrhau eu help i ddarparu gwybodaeth am hanes yr unigolyn
P8. cyfleu dim ond beth mae’r unigolyn eisiau i’w berthnasau wybod
P9. penderfynu pa fath o gysylltiad proffesiynol â’r perthnasau sy’n bosibl
P10. asesu’r math o ymgysylltiad rhwng yr unigolyn a’r teulu, y mae buddion yr ymgysylltiad yn cyfiawnhau’r risgiau
P11. cytuno â’r unigolyn ar y disgwyliadau sydd ganddo ar gyfer gwahanol aelodau’r teulu a’r nodau ar gyfer yr ymgysylltiad (e.e. natur cyswllt yn y dyfodol, newid yn ymddygiad y perthnasau, a chred am yr unigolyn)
P12. cytuno ar y modd sy’n cael ei ffafrio ar gyfer ail-ymgysylltu a chysylltiad parhaus â gwahanol aelodau o’r teulu (e.e. gohebiaeth, ymweliadau)
P13. galluogi’r teulu i ymweld â’r unigolyn tra bydd yn yr ysbyty, os bydd yr unigolyn a’r teulu’n dymuno hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. asesiad risg
K2. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion
K3. cysyniad ‘lles pennaf y plentyn’
K4. risgiau i blant sy’n deillio o ymgysylltu â rhiant sydd wedi ymddieithrio neu riant sy’n sâl
K5. dynameg teuluol
K6. prosesau ac effeithiau cam-drin plant
K7. anhwylderau iechyd meddwl ac Anabledd Dysgu
K8. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K9. amddiffyn oedolion bregus, protocolau ac arfer gorau
K10. cyfraith gofal plant, deddfwriaeth gofal plant, protocolau ac arfer gorau (e.e. argymhellion Diogelu Plant)
K11. argymhellion y llywodraeth ynghylch mynd â phlant i ymweld ag unigolion mewn lleoliadau dan glo
K12. asiantaethau mewn gwahanol rannau o’r wlad sy’n darparu asesiadau risg amddiffyn plant ac yn paratoi plant i gyfarfod ag unigolion
K13. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol, gan gynnwys ôl-ofal a chyfarwyddyd cyfyngu
K14. arsylwi
K15. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K16. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K17. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K18. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K19. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K20. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles