Ymateb i argyfwng ac ailwaelu posibl i unigolyn yn y gymuned
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â delio a hapddigwyddiadau sy’n digwydd pan fydd unigolyn wedi dychwelyd i’r gymuned, er enghraifft defnyddio cynllun atal ailwaelu sy’n cynnwys cymryd risgiau cadarnhaol a sut dylid delio ag argyfwng fel rhan o Ddull y Rhaglen Ofal. Gall fod angen cynnwys y Swyddfa Gartref a’u hamodau. Mae’r unigolyn yn cymryd cyfrifoldeb am roi gwybod i’r tîm am ei anawsterau posibl; yna, mae’r tîm yn gwneud penderfyniad proffesiynol ar y camau a fydd yn digwydd, sy’n cynnwys aildderbyn yn ogystal â gofal seibiant.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. ymgysylltu â’r unigolyn heb fygwth ei ymdeimlad datblygol o annibyniaeth
P2. cefnogi ac atgyfnerthu strategaethau ymdopi, sgiliau a galluoedd yr unigolyn
P3. adnabod arwyddion o ailwaelu (e.e. arsylwi wyneb yn wyneb, gwybodaeth gan ofalwr neu’r unigolyn) a chyfleu’r rhain i’r tîm amlddisgyblaethol
P4. cyfeirio at y cynllun atal ailwaelu a chwblhau asesiad cyfredol ac asesiad risg cyn gynted â phosibl, gan gynnwys yr unigolyn a gofalwyr (e.e. arwyddion cynnar ailwaelu, cymryd rhan mewn ymddygiad peryglus a thystiolaeth o arwyddion unigolyn o lithro’n ôl i hen arferion)
P5. gwneud yn siŵr bod cynllun rheoli risg ar gael er mwyn cyfeirio ato’n uniongyrchol neu mewn argyfwng
P6. cyfathrebu, a gweithredu yn unol â gofynion cyfreithiol a llywodraethol, lle bo’n berthnasol
P7. gweithio mewn partneriaeth â’r unigolyn, ei ofalwyr a’r tîm i wneud penderfyniad gwybodus ar sut a ble i drin yr unigolyn (e.e. yn y gymuned neu i aildderbyn yr unigolyn)
P8. gwneud trefniadau i’r unigolyn dderbyn triniaeth a chymorth, yn briodol i lefel y risg ac angen (e.e. seibiant, ymwneud yn agosach â gweithiwr gofal, cymorth i ofalwr, rheoli gorbryder, strategaethau ymdopi)
P9. gwneud cofnodion cywir, darllenadwy a chyflawn, ac addasu’r cynllun gofal a’r cynllun atal ailwaelu i adlewyrchu newidiadau
P10. cyfleu’r cynllun gofal wedi’i ddiweddaru i’r tîm amlddisgyblaethol, rhoi gwybod i’r unigolyn, i ofalwr a’r teulu, a’i adolygu’n rheolaidd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. anhwylderau iechyd meddwl
K2. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K3. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl
K4. camddefnyddio sylweddau
K5. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K6. y potensial i ailwaelu cyn symud ymlaen o un lleoliad i leoliad arall
K7. ailymuno â’r gymuned
K8. y goblygiadau pan fydd unigolyn uchel ei broffil yn y cyfryngau yn symud ymlaen o un lleoliad i leoliad arall
K9. ysgogiadau a phethau sy’n achosi straen, sy’n effeithio ar unigolion
K10. yr angen am gydweithredu a rhannu gwybodaeth rhwng gwahanol aelodau o dîm gofal yr unigolyn a’r risg bosibl pan na fydd hyn yn cael ei gyflawni
K11. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun ac mewn sefydliadau eraill, a sut i gael atynt mewn argyfwng
K12. tystiolaeth o effeithiolrwydd gwahanol driniaethau, ar eu pen eu hunain ac ar y cyd
K13. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran triniaeth unigolion
K14. yr angen am adnabod arwyddion o lithro’n ôl i hen arferion, dangosyddion ymddygiadol a ffactorau ysgogi wrth sefydlu strwythurau cymorth yn y gymuned
K15. meini prawf derbyn lleol
K16. meini prawf ar gyfer derbyn i sefydliadau ar bob lefel diogelwch
K17. asesiad risg
K18. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion
K19. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol
K20. materion cyfrinachedd unigol yn y gymuned
K21. hawliau cyfreithiol unigolion a theuluoedd
K22. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K23. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K24. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K25. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K26. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K27. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles