Trosglwyddo unigolyn i leoliad diogel arall
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r cydweithio rhyng-sefydliadol sy’n ofynnol i sicrhau bod cymorth ar waith i unigolyn sydd wedi cael ei drosglwyddo. Mae Dull y Rhaglen Ofal yn chwarae rhan ganolog mewn cynllunio a rheoli trosglwyddiadau, fel y mae fframwaith deddfwriaeth iechyd meddwl. Mae unrhyw drosglwyddiad yn galw am ymateb amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol cydgysylltiedig, trwy ddefnyddio MAPPA yn ogystal â Dull y Rhaglen Ofal. Gall y lleoliadau y mae unigolion yn cael eu trosglwyddo iddynt gynnwys carchardai.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. dechrau cynllunio ar gyfer trosglwyddiad ar y cyfle cyntaf yn nhriniaeth yr unigolyn
P2. cydweithio â’r darparwr gwasanaeth iechyd meddwl cyfrifol ac asiantaethau eraill yn y lleoliad newydd a thrafod anghenion a risgiau parhaus yr unigolyn, ei arwyddion ailwaelu a chynllun atal ailwaelu, ei sgiliau a’i strategaethau ymdopi (e.e. pwysigrwydd mynd i apwyntiadau clinigol tra bydd yn y carchar, cymryd ei feddyginiaeth)
P3. cytuno ar gytundebau a gofynion ar gyfer trosglwyddo a chofnodi, a’u dilyn (e.e. anghenion triniaeth, Adran 117 y Ddeddf Iechyd Meddwl yn Lloegr)
P4. sicrhau bod y cynllun gofal – gan gynnwys gwybodaeth ysgrifenedig am risgiau ac anghenion yr unigolyn, ei arwyddion ailwaelu a sut dylai’r rhain gael eu rheoli – yn gyflawn ac ar gael ar gyfrifiadur yn ogystal ag ar ffurf copi caled
P5. cynnwys yr unigolyn, teulu a gofalwr yn llawn mewn cynlluniau ar gyfer trosglwyddo
P6. gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer symud yr unigolyn i’r lleoliad newydd, yn unol â gofynion cyfreithiol (e.e. cysylltu ag Uned Iechyd Meddwl y Swyddfa Gartref, sicrhau trosglwyddiad gyda hebryngwr)
P7. sicrhau bod gan yr unigolyn gopi o bob cynllun gofal a bod ei gofnod yn ei ddilyn i’r lleoliad newydd, gyda chyn lleied o oedi â phosibl
P8. darparu cyfleoedd parhaus am drafodaethau gyda’r darparwr gofal newydd am ofal yr unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. asesiad risg
K2. perthynas lefelau risg cynyddol pan fydd unigolyn naill ai’n gwrthod cydymffurfio a/neu yn rhoi’r gorau i ddilyn ei gynllun triniaeth
K3. asesu uniongyrchedd a difrifoldeb risg bresennol a risg bosibl
K4. asesu effaith strwythurau a’r amgylchedd corfforol ar ymddygiadau risg presennol a phosibl
K5. casglu gwybodaeth berthnasol a chyfoes, a methodolegau ar gyfer gwneud hynny (e.e. HCR 20)
K6. asesiad clinigol
K7. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion
K8. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran asesu risg wrth rosglwyddo unigolion
K9. anhwylderau iechyd meddwl
K10. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K11. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl
K12. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K13. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K14. y potensial i ailwaelu cyn symud ymlaen o un lleoliad i un arall
K15. y goblygiadau pan fydd unigolyn uchel ei broffil yn y cyfryngau yn symud ymlaen o un lleoliad i leoliad arall
K16. yr angen am adnabod arwyddion o lithro’n ôl i hen arferion, dangosyddion ymddygiadol a ffactorau ysgogi wrth sefydlu strwythurau cymorth yn y gymuned cyn rhyddhau
K17. sut i adnabod sgiliau a strategaethau ymdopi unigolion
K18. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun ac mewn sefydliadau eraill
K19. meini prawf derbyn a threfniadau llywodraethu lleol (e.e. diwrnodau’r wythnos ar gyfer derbyn, cludiant)
K20. meini prawf ar gyfer derbyn i sefydliadau ar bob lefel diogelwch
K21. prosesau rhyddhau
K22. gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo carcharorion i ysbyty ac oddi yno
K23. asiantaethau cymunedol a chymorth y bydd angen i chi neu’r unigolyn weithio gyda nhw (e.e. tai, grwpiau dioddefwyr, asiantaethau gwirfoddol)
K24. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol, gan gynnwys ôl-ofal a chyfarwyddyd cyfyngu
K25. hawliau cyfreithiol unigolion
K26. amrywiaeth o arddulliau a dulliau cyfathrebu, gan gynnwys arddulliau a dulliau cyfweld
K27. amrywiaeth o arddulliau cyfathrebu wrth gydweithio ag aelodau’r tîm clinigol a phobl eraill sy’n arwyddocaol i’r unigolyn
K28. sgiliau negodi
K29. protocolau cyfathrebu rhwng sefydliadau
K30. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K31. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K32. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K33. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K34. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K35. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles