Helpu unigolyn i baratoi ar gyfer symud o fyw mewn sefydliad diogel i fyw yn y gymuned
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut mae aelodau’r tîm amlddisgyblaethol yn ymwneud â cham penodol yn adferiad unigolyn sy’n cynnwys heriau a risgiau byw yn y gymuned. Mae hyn yn golygu cynnydd sylweddol yn yr angen i ymdopi’n annibynnol. Mae’r pwyslais yma ar Ddull Model Adfer sy’n canolbwyntio ar y claf, sy’n cynnwys manylion am gydgordio triniaethau ac unrhyw ofynion sydd gan adrannau’r llywodraeth. Mae’n fater o ddysgu sgiliau newydd, bod yn effro i risgiau, ond mentro’n ofalus hefyd i adael diogelwch sefydliad. Mae’n rhaid cadw at gynllun atal ailwaelu, a fydd yn helpu i reoli unrhyw risgiau perthnasol wrth i’r broses barhaus hon ddatblygu.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cydweithio ag asiantaethau eraill yn y gymuned i roi cynlluniau ar waith ymhell cyn y symud posibl (e.e. tai, grwpiau dioddefwyr, asiantaethau gwirfoddol)
P2. asesu buddion a risgiau byw yn y gymuned i’r unigolyn a chyfrifo lefel y risg sydd ei hangen i alluogi’r unigolyn i wneud cynnydd
P3. asesu a nodi’r sgiliau newydd y bydd ar yr unigolyn eu hangen yn y gymuned (e.e. sgiliau bywyd bob dydd, delio ag arian, deall amserlenni, rhyngweithio ag unigolion, rheoli lefelau goddefgarwch)
P4. darparu cyfleoedd a chymorth i helpu’r unigolyn i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arno fel rhan o’i gynllun gofal integredig (e.e. sgiliau bywyd bob dydd, sgiliau rhyngbersonol, technegau ymlacio, sgiliau rheoli dicter)
P5. archwilio a chynnwys anghenion addysg a chyflogaeth yr unigolyn yn y dyfodol fel rhan annatod o’i gynlluniau gofal a rhyddhau
P6. creu cyfleoedd i unigolyn gychwyn llwybr i addysg, adsefydlu cymunedol hirdymor a/neu waith (e.e. prosiectau adsefydlu mewn gwaith)
P7. dilyn unrhyw ofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â rhyddid unigolyn i symud (e.e. gorchmynion cyfyngu’r Swyddfa Gartref)
P8. amlygu’r unigolyn yn raddol i ymweliadau gyda hebryngwr, yna ymweliadau heb hebryngwr, â’r gymuned
P9. gweithio gyda’r unigolyn i fyfyrio ar ei brofiad, yn enwedig ei bryderon am gael mwy o ryddid, a gwneud addasiadau priodol i’r cynllun adsefydlu a byw yn y gymuned
P10. archwilio a datblygu cynlluniau i ragweld ac atal ailwaelu a sut byddech chi a’r unigolyn yn delio ag argyfwng, petai argyfwng yn datblygu
P11. cofnodi’r wybodaeth yn gywir a’i rhannu gyda phobl sydd angen gwybod y wybodaeth, trwy’r fforymau perthnasol (e.e. gan ddefnyddio llwybr gofal)
P12. annog yr unigolyn i gymryd cyfrifoldeb am dasgau a phrosesau, a gwneud hyn yn bosibl o fewn cyfyngiadau pryderon am risg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. asesiad risg
K2. perthynas lefelau risg cynyddol pan fydd unigolyn naill ai’n gwrthod cydymffurfio a/neu yn rhoi’r gorau i ddilyn ei gynllun triniaeth
K3. asesu uniongyrchedd a difrifoldeb risg bresennol a risg bosibl
K4. asesu effaith strwythurau a’r amgylchedd corfforol ar ymddygiadau risg presennol a phosibl
K5. casglu gwybodaeth berthnasol a chyfoes, a sut i wneud hynny (e.e. HCR 20)
K6. asesiad clinigol
K7. sut i gasglu gwybodaeth am unrhyw hanes o gamddefnyddio a/neu gyflenwi sylweddau gan unigolion, eu teulu a/neu eu rhwydweithiau cymdeithasol, ac unrhyw risgiau posibl llithro’n ôl i hen arferion mewn lleoliad cymunedol
K8 . nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion
K9. y goblygiadau pan fydd unigolyn uchel ei broffil yn y cyfryngau yn symud ymlaen o un lleoliad i leoliad arall
K10. anhwylderau iechyd meddwl
K11. anabledd dysgu
K12. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K13. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K14. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl
K15. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K16. arwyddion o lithro’n ôl i hen arferion, dangosyddion ymddygiadol a ffactorau ysgogi wrth sefydlu strwythurau cymorth yn y gymuned
K17. sut i werthuso perthnasoedd teuluol a pherthnasoedd arwyddocaol eraill, a’u heffaith
K18. triniaeth ac adsefydlu sy’n canolbwyntio ar adfer
K19. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun ac mewn sefydliadau eraill
K20. adnoddau a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau byw yn y gymuned (e.e. sgiliau bywyd bob dydd, delio ag arian, deall amserlenni, rhyngweithio ag unigolion, rheoli lefelau goddefgarwch)
K21. strategaethau gall unigolion eu defnyddio i ymdopi â digwyddiadau a sefyllfaoedd
K22. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth ryddhau a throsglwyddo unigolion
K23. prosesau rhyddhau lleol
K24. asiantaethau cymunedol a chymorth y bydd angen i chi neu’r unigolyn weithio gyda nhw (e.e. tai, grwpiau dioddefwyr, asiantaethau gwirfoddol)
K25. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol, gan gynnwys ôl-ofal a chyfarwyddyd cyfyngu
K26. sgiliau negodi a datrys gwrthdaro
K27. protocolau cyfathrebu rhwng sefydliadau
K28. sut i gynnwys teuluoedd a gofalwyr
K29. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K30. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K31. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K32. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K33. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K34. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles