Galluogi unigolyn i wahaniaethu rhwng ymddygiadau cadarnhaol a negyddol, a deall y canlyniadau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r cymorth therapiwtig eang y gall unigolion ei gael o ddysgu am y ffordd mae meddyliau a theimladau yn rhyngweithio ac yn llywio ymddygiad. Mae hyn yn wahanol i therapïau seicolegol penodol a all fod yn rhan o gynllun gofal unigolyn, ac mae’n llai dwys na’r rheiny, ond mae’n rhaid iddo fod yn gyson â’r ymagwedd a’r nodau therapiwtig eang. Dylai fod yn destun trafodaeth o fewn y tîm amlddisgyblaethol trwy Ddull y Rhaglen Ofal er mwyn cyfrannu at reoli anawsterau unigolyn yn glir ac yn gyson.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. annog yr unigolyn i siarad am ddigwyddiadau a sefyllfaoedd y mae’n eu cael yn anodd
P2. helpu’r unigolyn i:
P2.1. wahaniaethu meddyliau a theimladau am y digwyddiadau a’r sefyllfaoedd
P2.2. datgan sut gall meddyliau a theimladau fod yn dylanwadu ar ei ymddygiad
P2.3. nodi a deall canlyniadau ei ymddygiad i’w hun ac i bobl eraill
P3. cynnig ffyrdd eraill o feddwl am ddigwyddiadau a sefyllfaoedd, a strategaethau ar gyfer delio â nhw
P4. gyda’r unigolyn, gweithio allan sut bydd yn ystyried digwyddiadau a sefyllfaoedd yn y dyfodol, ac yn ymateb iddynt (e.e. technegau ar gyfer trefnu ei feddwl)
P5. gofyn i’r unigolyn ddisgrifio sut mae ei feddyliau a’i deimladau yn newid, a buddion y newidiadau hynny
P6. atgyfnerthu’r newidiadau cadarnhaol yn ymddygiad unigolyn a’i ymdrechion i fynegi ei feddyliau a’i deimladau
P7. gwerthuso ac addasu’r ymagwedd o ran ei heffaith ar ymddygiad yr unigolyn a’ch gallu i weithio gyda’r unigolyn
P8. cynnal deialog rhwng pawb sy’n gweithio ar faterion seicolegol gyda’r un unigolyn a’i deulu
P9. cyfrif am therapïau seicolegol a thriniaethau eraill er mwyn osgoi gwrthdaro
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. anhwylderau iechyd meddwl
K2. anabledd dysgu
K3. seicopathi ac anhwylderau personoliaeth
K4. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K5. yr amrediad cyfan o wahanol ymddygiadau heriol (e.e. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl) a’r effaith ar yr unigolyn ac ar eraill
K6. camddefnyddio sylweddau
K7. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun (e.e. rheoli dicter, rheoli ymddygiad troseddol, seico-addysg, therapi teuluol)
K8. effeithiolrwydd gwahanol driniaethau, ar eu pen eu hunain ac ar y cyd
K9. sylfeini damcaniaethol therapïau seicolegol sy’n cael eu defnyddio yn eich sefydliad (e.e. Therapi Gwybyddol Ymddygiadol a dulliau seicotherapiwtig eraill)
K10. strategaethau y gall unigolion eu defnyddio i ymdopi â digwyddiadau a sefyllfaoedd
K11. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran triniaeth unigolion
K12. sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys cwestiynu, trafod a sgwrsio
K13. seicoleg sy’n cael ei chymhwyso i’r grŵp perthnasol (e.e. amgyffrediad a’i berthnasedd i’r grŵp cleifion)
K14. y ffiniau proffesiynol sydd i’w cynnal
K15. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K16. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K17. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid eu bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K18. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K19. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K20. archwiliad a gwybodaeth y gellir ei chael ohono
K21. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles