Helpu unigolyn i deimlo’n fwy sicr yn seicolegol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r ffordd y mae timau amlddisgyblaethol yn delio ag ymdeimlad unigolyn o ansicrwydd a thrallod seicolegol. Y mwyaf ansicr y mae unigolyn yn teimlo, y mwyaf tebygol y mae o deimlo’n ofnus, yn baranoid ac, o bosibl, bod yn dreisgar. Gall teimladau sydyn o ansicrwydd gael eu hysgogi gan ddigwyddiadau neu’r amgylchedd, newidiadau i’r tîm a pherthnasoedd ag unigolion eraill. Beth bynnag yw’r rheswm, mae angen lleddfu’r ansicrwydd hwn, ar y cyd â’r unigolyn, er mwyn lleihau risg trais a gwella gallu’r unigolyn i reoli’i hun yn ddiogel. Mae rheolaeth ddiogel ac effeithiol ar drallod seicolegol yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer triniaethau a therapïau seicolegol mwy dwys. Mae angen i reolaeth o’r fath fod yn glir ac yn gyson ar draws y tîm amlddisgyblaethol; mae Dull y Rhaglen Ofal a gweithio mewn partneriaeth yn cyfrannu at yr eglurdeb a’r cysondeb hwn.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. datgan, gyda’r unigolyn, pam mae’n teimlo’n fregus yn seicolegol, yn ansicr neu mewn trallod, a sut i geisio delio â hyn (e.e. ffactorau yn yr amgylchedd corfforol, perthnasoedd â staff neu unigolion eraill, dewis o driniaeth, atgofion trawmatig o ofn plentyndod)
P2. sicrhau bod staff yn deall datganiad a ffactorau ysgogi unigol pob unigolyn a, gyda’r tîm, trafod yr amrywiaeth o ymatebion ac ymyriadau a allai ostwng pryder ac ansicrwydd yr unigolyn
P3. cynnig cyfleoedd rheolaidd i alluogi’r unigolyn i gwestiynu, cadarnhau a deall:
P3.1. pa aelod staff a neilltuwyd iddo (e.e. nyrs sylfaenol) a sut a phryd y gall gysylltu â nhw
P3.2. ei becyn gofal
P3.3. pam mae’r unigolyn wedi’i dderbyn ac, os bydd yn cael ei gadw’n gaeth, y rheswm dros hynny, y pwerau a ddefnyddiwyd a’u graddfa, a hawliau apelio
P3.4. beth yw ei hawliau o ran cydsynio i driniaethau, gweithdrefnau cwyno, a mynediad at gymorth ac eiriolaeth annibynnol
P3.5. beth gall ddigwydd os bydd yn cynhyrfu neu’n mynd yn dreisgar (e.e. fel yn y cynllun gofal unigol)
P4. helpu’r unigolyn i lunio neu adolygu Blaen-ddatganiad sy’n gyson â’i gynllun gofal o ran sut yr hoffai gael ei drin os bydd yn cynhyrfu neu’n mynd yn dreisgar (e.e. pa ymyriadau ddylai gael eu defnyddio)
P5. annog a chynorthwyo’r unigolyn i ddatblygu mewnwelediad a chymryd cyfrifoldeb am adnabod ei arwyddion rhybudd cynnar o gynhyrfu/ymddygiad treisgar ac ymddygiadau risg eraill (e.e. arwyddion o lithro’n ôl i hen arferion yn gysylltiedig â’r asesiad risg, hunan-niweidio)
P6. annog a chefnogi newidiadau cadarnhaol yn ymddygiad yr unigolyn
P7. adolygu’n rheolaidd effeithiolrwydd ymyriadau a’r datganiad o fregusrwydd, ansicrwydd neu drallod yr unigolyn
P8. cyfrannu at addasiadau i becyn gofal unigolyn yn ngoleuni gwybodaeth sydd wedi’i hadolygu a gwybodaeth newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. nodweddion a gwreiddiau trallod, ansicrwydd a bregusrwydd mewn unigolion
K2. anhwylderau iechyd meddwl
K3. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl
K4. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K5. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K6. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K7. effaith yr amgylchedd corfforol a newidiadau mewn dynameg o fewn y ward/yr uned/yr amgylchedd cymunedol ar yr unigolion fel unigolion ac fel grŵp
K8. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun
K9. effeithiolrwydd gwahanol driniaethau, ar eu pen eu hunain ac ar y cyd
K10. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran triniaeth unigolion
K11. therapïau seicolegol sy’n cael eu defnyddio yn eich sefydliad
K12. strategaethau y gall unigolion eu defnyddio i ymdopi â digwyddiadau a sefyllfaoedd
K13. gofynion deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol
K14. technegau cwestiynu, trafod a sgwrsio
K15. y ffiniau proffesiynol sydd i’w cynnal
K16. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K17. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K18. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K19. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K20. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K21. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles