Rheoli gelyniaeth a risgiau gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr sy’n gwrthod cydweithredu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r dasg heriol o berswadio a dylanwadu ar unigolyn (a theulu a gofalwr, o bosibl), sy’n gwrthwynebu neu sy’n methu cytuno â’r driniaeth arfaethedig neu sy’n amharod i helpu llywio’r driniaeth honno. Nod therapiwtig ymarferwyr yw gweithio ar y cyd ac yn gydweithredol â’r unigolyn trwy Ddull y Rhaglen Ofal; ar adegau, ni fydd hynny’n bosibl. Hefyd, mae’n bwysig nodi’r aelod gorau o’r tîm amlddisgyblaethol i reoli’r diffyg cydweithrediad hwn.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. defnyddio’r dull clinigol cytunedig o reoli gelyniaeth a risgiau, fel y mae’r tîm amlddisgyblaethol wedi penderfynu arno
P2. dangos eich bod yn barod i gael trafodaeth gyda’r unigolyn, gofalwr neu aelod o’r teulu, a hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth â nhw trwy ddechrau sgyrsiau (e.e. fel mater o drefn, pan fydd angen trafod materion trallodus neu sensitif)
P3. atgoffa’r unigolyn, gofalwr neu aelod o’r teulu, gyda pharch ac mor aml ag y bydd angen, am gyfrwng derbyn yr unigolyn (e.e. o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl, penderfyniad y llysoedd) a bod y penderfyniadau wedi’u gwneud er diogelwch y cyhoedd, eu hiechyd a’u diogelwch
P4. ymateb yn barchus i unigolion, gofalwyr a theuluoedd pan fyddant mewn trallod, yn ddig neu mewn ofn
P5. creu cyfleoedd i ystyried, gyda phob parti, sut gall eu gwybodaeth a’u profiad o’r unigolyn hysbysu a chyfrannu at y pecyn gofal (e.e. eu hannog a’u gwahodd i gymryd rhan mewn adolygiadau CPA)
P6. cyfathrebu â’r unigolyn, gofalwr neu aelod o’r teulu, ar lafar ac yn ddieiriau, mewn modd proffesiynol a chyson
P7. nodi pa ymyrraeth therapiwtig ffurfiol sydd ei hangen i fynd i’r afael ag effaith y digwyddiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. anhwylderau iechyd meddwl
K2. anabledd dysgu
K3. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K4. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K5. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl
K6. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K7. yr amrywiaeth o driniaethau sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun ac mewn sefydliadau eraill
K8. strategaethau y gall unigolion eu defnyddio i ymdopi â digwyddiadau a sefyllfaoedd
K9. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran trin unigolion sy’n gwrthod cydweithredu
K10. meini prawf derbyn lleol
K11. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol
K12. codau ymddygiad proffesiynol
K13. negodi
K14. theori ac ymarfer rheoli ymosodedd
K15. cynnal perthnasoedd ar ôl digwyddiad
K16. theori ac ymarfer lleihau tensiwn ymosodedd
K17. polisi a gweithdrefnau lleol ar reoli ymosodedd
K18. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K19. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K20. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K21. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K22. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K23. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB3 Amddiffyn iechyd a lles