Cynorthwyo unigolyn mewn gofal iechyd meddwl fforensig i gymryd rhan mewn triniaeth

URN: SFHFMH11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwaith staff yn annog unigolion sydd dan ofal gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i chwarae rhan mewn cynllunio a gweithredu eu hasesiad a’u triniaeth. Mae’n rhan annatod o Ddull y Rhaglen Ofal. Mae’n elfen sylweddol o ymgysylltu ag unigolion. Mae’n cydnabod bod unigolion yn gallu gwneud i ymgysylltu a thriniaeth fod yn anodd. Mae’r cymhwysedd yn disgrifio sut gall staff helpu unigolion i adnabod a gweithio trwy eu hanawsterau, gan felly ddarparu profiad cadarnhaol sy’n gallu cael ei gysylltu â’r broses adfer. 

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. ymgysylltu â’r unigolyn yn rhagweithiol (e.e. trwy fynd i siarad â’r unigolyn yn hytrach nag aros i’r unigolyn ddod atoch chi)

P2. datblygu deialog agored a gonest gyda’r unigolyn am ei driniaeth, sydd hefyd yn parchu profiad yr unigolyn 

P3. pennu lefel ymwybyddiaeth yr unigolyn o’i symptomau pan fydd yn seicotig neu’n dioddef cam acíwt yn ei anhwylder meddyliol 

P4. pennu i ba raddau mae’r unigolyn yn ymwybodol o brofiad pobl eraill ohono a sut mae ei feddyliau, ei deimladau a’i ymddygiad ei hun yn wahanol pan fydd yn sâl 

P5. ymgysylltu â’r unigolyn mewn ffordd sy’n sensitif i’w allu a’i weithrediad gwybyddol 

P6. asesu i ba raddau mae’r unigolyn yn barod am newid (e.e. ‘cam newid’ mewn Cyfweld Ysgogiadol) ac yn barod i gydymffurfio â’r cyfan o’i gynlluniau gofal, triniaeth a rheoli, neu rannau ohonynt

P7. helpu’r unigolyn i lunio neu adolygu Blaen-ddatganiad realistig sy’n gyson â’i gynllun gofal, ar gyfer sut mae’n dymuno cael ei drin os bydd yn mynd yn sâl, yn cynhyrfu neu’n dreisgar (e.e. pa ymyriadau sydd ar gael ac y dylid eu defnyddio)

P8. cynorthwyo’r unigolyn ag adnabod ysgogiadau neu batrymau a all arwain at unrhyw ymddygiad cynhyrfus neu dreisgar neu drallod emosiynol 

P9. annog yr unigolyn i nodi’r triniaethau y mae’n eu ffafrio ymhlith yr ymyriadau meddygol, seicolegol, nyrsio a seicogymdeithasol sydd ar gael 

P10. annog yr unigolyn i adnabod yr agweddau negyddol ar beidio â chymryd rhan i’w iechyd, ei droseddeg ac i ba mor hir y bydd yn rhaid iddo aros

P11. gwerthuso buddion cymryd risgiau cadarnhaol ac addasu’r cynlluniau rheoli yn unol â hynny


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. technegau cyfweld a sut i’w defnyddio 

K2. anhwylderau iechyd meddwl 

K3. seicopathi ac anhwylder personoliaeth 

K4. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad 

K5 . ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl 

K6. camddefnyddio sylweddau 

K7. rheoli dicter

K8. technegau seicoaddysg 

K9. yr amrywiaeth o ymyriadau meddygol, seicolegol, nyrsio a seicogymdeithasol sydd ar gael yn eich sefydliad eich hun ac mewn mannau eraill 

K10. tystiolaeth o effeithiolrwydd gwahanol driniaethau, ar eu pen eu hunain ac ar y cyd 

K11. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran triniaeth unigolion 

K12. effaith deddfwriaeth a moddau troseddu gwahanol ar adfer a thuedd i aildroseddu

K13. amrywiaeth o dechnegau ymyrraeth therapiwtig 

K14. amrywiaeth o arddulliau a dulliau cyfathrebu, gan gynnwys arddulliau a dulliau cyfweld 

K15. yr effaith ar risg pan fydd unigolyn naill ai’n gwrthod cydymffurfio a/neu yn rhoi’r gorau i ddilyn ei gynllun triniaeth 

K16. asesu uniongyrchedd a difrifoldeb risg bresennol a risg bosibl 

K17. asesu effaith strwythurau a’r amgylchedd corfforol ar ymddygiadau risg presennol a phosibl 

K18. casglu gwybodaeth berthnasol a chyfoes, a methodolegau ar gyfer gwneud hynny (e.e. HCR 20)

K19. technegau ar gyfer monitro a gwerthuso uniongyrchedd a difrifoldeb ymddygiadau risg a throseddu blaenorol 

K20. nodi buddion gwahanol driniaethau i unigolion 

K21. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K22. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol 

K23. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl 

K24. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K25. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K26. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion

K27. archwiliad clinigol perthnasol 

K28. y sylfaen dystiolaeth ac ymchwil ar gyfranogiad unigolion yn eu triniaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH11

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, ymgysylltu, adfer, seicogymdeithasol