Gwneud a chynnal ffiniau personol a phroffesiynol gydag unigolion mewn lleoliad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r angen bod staff sy’n gorfod gweithio’n agos gydag unigolion am gyfnodau hir yn datblygu perthynas briodol nad oes risg iddi ecsbloetio pŵer neu ildio pŵer amhriodol i’r unigolyn. O bryd i’w gilydd, mae hyn wedi bod yn broblem mewn lleoliadau preswyl a gall unigolion ddatblygu mwy fyth o anawsterau a’u patrymau personol o ymddygiad o ganlyniad, er enghraifft troseddwyr rhyw ac unigolion ag anawsterau dysgu neu anhwylder personoliaeth. Mae’n bolisi cenedlaethol bod yn rhaid i staff sy’n gweithio gydag unigolion ag anghenion cymhleth fanteisio ar ymarfer myfyriol/goruchwyliaeth i’w galluogi nhw i ymdopi â’r gofynion y mae gwaith fforensig yn eu gosod arnynt. Hefyd, mae’n bwysig iawn bod yr holl staff o fewn y tîm amlddisgyblaethol yn cytuno ar y polisi lle maen nhw’n gweithio, a’u bod yn cefnogi’r polisi yn weithgar, er mwyn trin yr unigolion yn eglur ac yn gyson.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. esbonio’r canlynol yn glir wrth unigolion, gofalwyr a staff eraill: P1.1 eich rôl a’ch cyfrifoldebau
P1.2. sut mae eich rôl yn cyd-fynd â rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill o’r tîm
P1.3. beth yw cyfrinachedd a therfynau cyfrinachedd
P1.4. pwysigrwydd ffiniau personol a phroffesiynol
P1.5. y ffiniau a ddaw yn sgil datblygu perthynas therapiwtig ag unigolyn
P2. helpu’r unigolyn i ddeall bod y berthynas therapiwtig yn orchwyl ar y cyd, wedi’i chychwyn a’i chynnal gennych chi, a sut a phryd gall yr unigolyn ddisgwyl bod y berthynas therapiwtig yn dod i ben
P3. osgoi datgelu gwybodaeth bersonol amdanoch chi ac am bobl eraill, ac esbonio pam rydych chi’n gwneud hynny, os bydd angen
P4. defnyddio goruchwyliaeth i archwilio a gwerthuso eich ffiniau personol a phroffesiynol
P5. adnabod natur a heriau’r berthynas bersonol a phroffesiynol yn eich gweithle penodol (e.e. fel ymarferydd mewn lleoliad gofal preswyl hirdymor)
P6. adnabod pan fydd unigolion yn ysgogi teimladau cadarnhaol neu negyddol cryf ynoch, gwirio nad yw’r rhain yn penderfynu’ch gweithredoedd, a thrafod hyn mewn goruchwyliaeth
P7. sicrhau bod strwythurau ar waith i roi cymorth yn rheolaidd ac yn barhaus (e.e. sesiynau ymarfer myfyriol, goruchwyliaeth glinigol) a defnyddio’r rhain
P8. defnyddio’r mecanwaith adrodd ar eich cyfer chi ac eraill pan fyddwch o’r farn bod rhywun wedi mynd y tu hwnt i ffiniau personol neu broffesiynol o fewn y tîm amlddisgyblaethol
P9. ôl-drafod ar unwaith, gydag aelod o’r tîm amlddisgyblaethol, os ydych chi o’r farn eich bod wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi mynd y tu hwnt i ffiniau personol a/neu broffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. anhwylderau iechyd meddwl
K2. ymddygiadau hunan-niweidiol, gan gynnwys clymiad
K3. ymddygiadau troseddol, yn enwedig ymddygiad treisgar nad yw’n gysylltiedig â salwch meddwl
K4. camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
K5. seicopathi ac anhwylder personoliaeth
K6. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer o ran cynnal ffiniau
K7. eich ymatebion a’ch teimladau eich hun
K8. prosesau ymarfer myfyriol
K9. sut i ddefnyddio goruchwyliaeth glinigol a chyfleoedd eraill i fyfyrio wrth ymarfer ac ar ymarfer
K10. hanes y problemau y mae staff ac unigolion mewn gofal diogel wedi’u hwynebu
K11. meini prawf derbyn lleol
K12. deddfwriaeth a rheoliadau iechyd meddwl presennol (e.e. o ran perthnasoedd a chosbau)
K13. codau ymddygiad proffesiynol, moeseg, deddfwriaeth adnoddau dynol (AD)
K14. amrywiaeth o arddulliau a dulliau cyfathrebu, gan gynnwys arddulliau a dulliau cyfweld
K15. sgiliau negodi
K16. protocolau cyfathrebu rhwng sefydliadau
K17. theori ac ymarfer rheoli ymosodedd
K18. bod yn fodel rôl o berthynas, gan ddangos uniondeb
K19. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau
K20. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol
K21. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
K22. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal
K23. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy
K24. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: Craidd 5 Ansawdd